Cam-drin domestig: Plismyn yn paratoi am gynnydd 'anochel'

  • Cyhoeddwyd
Trais yn y cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu'n paratoi am gynnydd "anochel" yn nifer yr achosion o gam-driniaeth domestig pan fydd y cyfnod clo yn dod i ben yng Nghymru.

Mae yna bryderon wedi bod am y gostyngiad diweddar mewn achosion sydd yn cael eu cofnodi, oherwydd y gallai dioddefwyr ei chael hi'n anodd i gysylltu a'r heddlu wrth iddyn nhw feudwyo gyda phobl sydd yn eu cam-drin.

Mae ditectifs hefyd yn credu y gallai ystod mwy eang o bobl fod yn diodde cam-drin fel hyn, er enghraifft pobl oedrannus, oherwydd y tensiynau sydd yn codi yn y cyfnod clo.

Annog teulu a ffrindiau i weithredu

Mae BBC Cymru wedi cael gweld gwaith tîm heddlu Gwent sydd yn delio gyda cham-drin domestig.

Dywedodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl y llu, "Does gen i ddim amheuaeth y bydd pobl yn dod ymlaen ac yn adrodd am gam-driniaeth hanesyddol."

Ychwanegodd "Dwi'n meddwl bod synnwyr cyffredin yn dweud bod yna lai o achosion yn cael eu hadrodd. Mae'n anochel, ac mae'n gwneud synnwyr llwyr y bydd cynnydd dros y misoedd nesaf.

"Rydyn ni yn barod ar gyfer hynny."

Mae yna anogaeth i deulu a ffrindiau dioddefwyr i weithredu.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau pellach i'r cyfnod clo ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Heddlu Gwent yn dweud bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer y galwadau am gamdrin domestig fis ar ôl mis eleni.

Fe dderbyniwyd 550 galwad am gam-driniaeth domestig ym mis Mawrth eleni, o'i gymharu â rhwng 700 a 800 o alwadau yn Ionawr a Chwefror.

Mae galwadau Mawrth eleni 16% yn uwch nag ym mis Mawrth 2019.

Mae heddlu Dyfed Powys hefyd yn dweud bod yna gynnydd o 13% mewn galwadau trais yn y cartre ym mis Mawrth 2020 o'i gymharu â Mawrth y llynedd.

Mae Heddlu'r Gogledd hefyd wedi cofnodi 11% yn fwy o alwadau am gam-drin domestig Mawrth eleni o'i gymharu gyda yr un mis yn 2019.

Doedd heddlu'r de ddim wedi ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC am wybodaeth.

Dywedodd Paula Heart, swyddog cefnogi ymchwiliadau gyda heddlu Gwent, "Mae dioddefwyr yn ei chael hi'n fwy anodd i gysylltu â ni."

Mae heddluoedd ar draws Cymru wedi cynyddu'r pwyslais ar ymddygiad unigolion sydd yn rheoli partneriaid drwy orfodaeth, a hefyd mae yna bryder am gamdriniaeth ariannol, lle gall rhywun gymryd rheolaeth o holl ffynonellau incwm person.

Dywedodd Sarjant Chris Issac, "Mae hwn yn amser anarferol iawn."

"Dyw pobl ddim yn deall eu bod nhw yn ddioddefwr. I ni ddim yn disgwyl pobl i fod yn arbenigwyr ar y gyfraith, ein job ni yw hynny, os i chi'n meddwl eich bod wedi diodde, dewch i ddweud."

Yn ôl heddlu Gwent mae pobl sydd yn gweithio o fewn maes iechyd ymysg y rhai sydd wedi adrodd ar achosion posib yn ystod yr wythnosau diwethaf.