Atal ffilmio Rownd a Rownd wedi cynnydd Covid-19 Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rownd a Rownd

Mae ffilmio'r gyfres deledu Rownd a Rownd wedi ei atal am wythnos oherwydd pryderon am gynnydd mewn achosion Covid-19.

Dywedodd cwmni cynhyrchu Rondo na fyddai'r ffilmio, sy'n digwydd ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, yn digwydd yr wythnos hon yn dilyn cynnydd mewn achosion yn yr ardal.

Er nad oes achosion wedi eu cadarnhau ymysg y cast a'r criw, dywedodd Rondo bod "rhywfaint o achosion diweddar iawn" ymysg staff yn swyddfa'r cwmni yng Nghaernarfon.

Nid oes disgwyl i'r oedi effeithio ar amserlen ddarlledu'r rhaglen, a dywedodd y cwmni mai'r bwriad yw ail-ddechrau ffilmio ar 22 Chwefror.

'Penderfyniad doeth'

Mewn datganiad, dywedodd Rondo bod y penderfyniad wedi ei wneud "yn dilyn cyfres o gyfarfodydd a thrafodaethau dros y penwythnos ac yn sgil pryderon am y cynnydd yn nifer yr achosion o Covid ym Môn a Gwynedd".

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth prif weithredwr Cyngor Môn ddweud bod y cynnydd mewn achosion yn yr ardal yn "hynod bryderus".

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae'r gyfradd achosion ar Ynys Môn yn 177 i bob 100,000 o'r boblogaeth, y drydedd uchaf drwy Gymru.

Er nad oes achosion positif, dywedodd cwmni Rondo bod gohirio'n "benderfyniad doeth yn yr hinsawdd bresennol".

Ychwanegodd Prif Weithredwr Rondo, Gareth Williams, bod "rhywfaint o achosion diweddar iawn ymhlith aelodau staff Rondo sy'n gweithio yn ein swyddfa yn Cibyn, Caernarfon, er mor ofalus a chydwybodol mae pawb wedi bod wrth ddilyn y canllawiau manwl a thrwyadl sydd yn eu lle gennym".

Dywedodd bod y swyddfa wedi cau, a gwaith diheintio wedi ei gwblhau.

"Rydym hefyd wedi bod mewn cyswllt gyda Iechyd Cyhoeddus Cyngor Gwynedd sydd wedi cadarnhau eu bod yn hapus gyda'n polisiau a'n gweithdrefniadau Covid-19 ni yn y gweithle. 

"Ac wrth gwrs rydym yn dymuno gwellhad llawn i'r aelodau sydd wedi profi'n bositif."

Nid oedd am gadarnhau union nifer yr achosion yn y swyddfa yng Nghaernarfon.