Elusen: 'Covid wedi cael effaith ddinistriol ar filoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig wedi cael effaith "ddinistriol" ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru, gyda bron i chwarter wedi profi gostyngiad yn eu hincwm misol, medd elusen.
Yn ôl adroddiad gan Sefydliad Bevan, sy'n edrych ar effaith Covid-19 dros y gaeaf, mae 'na rybudd mai'r "mwyaf bregus", mewn "ardaloedd difreintiedig" sydd wedi eu taro waethaf.
Mae'r adroddiad yn nodi y bydd angen "ymyrraeth arwyddocaol" gan y llywodraethau er mwyn adfer y niwed sydd wedi dod yn sgil y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n gwneud popeth o fewn ei gallu "i gefnogi pawb yng Nghymru".
Beth oedd canfyddiadau'r adroddiad?
Wrth ddadansoddi effaith y pandemig ar gymunedau Cymru fe ddangosodd adroddiad Sefydliad Bevan bedwar canfyddiad amlwg:
Bod 24% o gartrefi Cymru wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm o achos y pandemig;
Bod nifer o gartrefi wedi gweld eu costau'n cynyddu - 41% yn gwario mwy ar drydan a gwres;
Bod miloedd o gartrefi wedi gorfod lleihau eu gwariant;
Bod "argyfwng" dyledion personol, gyda 15% wedi benthyg arian a 9% wedi methu â thalu o leiaf un bil ers Mawrth 2020.
'100 o geisiadau am waith'
Fe dreuliodd rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore ym Mhenygroes, Gwynedd - ardal sydd wedi profi caledi economaidd ar ôl i ffatri bapur Northwood gau y llynedd gan adael 94 o bobl leol yn chwilio am swyddi newydd.
Roedd Geraint Williams o'r pentref yn un o'r gweithwyr a gollodd eu swyddi.
"I fod yn onest mi es i i'r gwaith y bore yna ac o'n i'n raring to go, ond erbyn y prynhawn doeddwn i ddim yn siŵr be' oeddwn i am wneud," meddai.
"Mae gen i deulu ifanc a dwi'n teimlo fel mai fi ydy'r provider, a ti'n meddwl am dy deulu a sut dwi'n mynd i provideio i'r rhain?
"Erbyn rŵan dwi wedi gwneud dros 100 o geisiadau am waith."
Erbyn hyn mae Mr Williams wedi canfod gwaith yn y fenter gymunedol leol, Yr Orsaf.
Yno mae'n gweithio fel swyddog prosiect yn arwain ar fentrau i ddarparu bwyd i'r henoed a'r bregus, ond mae'n nodi ei fod ar gytundeb byr am y tro.
'Afiach o flwyddyn'
Llai 'na 10 munud lawr y lôn ym mhentref cyfagos Talysarn, mae cyn-gydweithiwr i Mr Williams yn byw - Gareth Dobson Jones.
Fe gafodd yr ergyd o golli ei swydd a'i fam o fewn ychydig ddyddiau, gyda'r pandemig yn cael y bai am y ddau ddigwyddiad.
"Mi oedd o'n dipyn o sioc. Nes i golli Mam ym mis Mai i Covid a ges i alwad ffôn o'r gwaith yn cydymdeimlo ac yn yr un alwad yn dweud 'Mae dy swydd di'n beryg o fynd'," meddai.
"Mi oedd o'n ergyd ar ôl 27 o flynyddoedd yno.
"Mi oeddan ni'n poeni, doedd y mab ieuengaf dim 'di gweithio ers blwyddyn a'r mab hynaf wedi gorfod newid swydd - hynny'n glec iddo fo."
O golli ei swydd a'i fam i'r pandemig, a cholli ei dad yn yr un cyfnod hefyd, mae Mr Jones yn dweud fod 2020 wedi bod yn "afiach o flwyddyn" ond mae'n obeithiol iawn at y dyfodol ac wrth ei fodd ar ôl derbyn swydd newydd yn Hufenfa De Arfon.
Er eu bod wedi profi caledi ac effeithiau'r pandemig, mae'r ddau yn canmol ac yn diolch am y gefnogaeth a roddwyd i'r gweithwyr yn Nyffryn Nantlle, gan ddweud fod "y gymuned wedi tynnu ynghyd" mewn cyfnod anodd.
'Ysbryd cymunedol'
Gyda miloedd felly wedi profi gwaetha'r pandemig, mae Sefydliad Bevan yn dweud y bydd angen i lywodraethau'r DU a Chymru ddarparu buddsoddiad helaeth er mwyn adfer o heriau'r pandemig.
Dywedodd Steffan Evans o Sefydliad Bevan ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fod y sefyllfa yn un "bryderus dros ben."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu" i helpu pawb yng Nghymru a'u bod wedi gwthio "pob adnodd posib" er mwyn helpu'r cyhoedd.
Mae adroddiad Sefydliad Bevan hefyd yn rhybuddio mai un o'r prif heriau ydy bod dyledion pobl Cymru - yn enwedig unigolion rhwng 25 a 49 - ar gynnydd, ac fe all hynny gael effaith ar "safon byw unigolion am flynyddoedd i ddod".
Tra bod Penygroes yn bentref sydd wedi profi effaith Covid ar ei waethaf, mae'r trigolion yn dweud fod yr "ysbryd cymunedol" wedi eu cynnal a bod Dyffryn Nantlle "wedi bod yn gefn i'r gweithwyr a gollodd eu swyddi'r llynedd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020