Honiad Boris Johnson ar Ben-y-bont yn 'gamgymeriad'

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU gamgymeriad pan ddywedodd y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn un o "brif ganolfannau cynhyrchu batris y wlad", mae ei lywodraeth wedi cadarnhau.

Does dim cynlluniau am ffatri o'r fath wedi eu cyhoeddi.

Mae'r gwrthbleidiau eisiau ymddiheuriad gan Boris Johnson am ei sylw yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn gweithio gyda buddsoddwyr ar gynlluniau ar gyfer cynhyrchu batris dros y DU.

Beth ddywedodd Boris Johnson?

Wrth ateb cwestiwn gan AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, dywedodd y prif weinidog y byddai Pen-y-bont yn "un o'r prif ganolfannau cynhyrchu batris yn y wlad, os nad y byd".

Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, drydar fideo o sylwadau Mr Johnson yn ddiweddarach.

Oes ffatri newydd ar y ffordd?

Does dim cynlluniau am safle cynhyrchu batris ym Mhen-y-bont wedi eu cyhoeddi.

Ym mis Rhagfyr daeth i'r amlwg na fyddai ffatri cynhyrchu batris ar gyfer ceir trydanol yn dod i Sain Tathan ym Mro Morgannwg fel y disgwyl.

Cyhoeddodd cwmni Britishvolt y byddai'r ffatri'n cael ei lleoli yn Blyth, Northumberland.

Daeth y cyhoeddiad yna ar ôl i gwmni arall, Ineos, gyhoeddi y byddai cerbyd newydd yn cael ei gynhyrchu yn Ffrainc yn hytrach na Phen-y-bont.

Beth oedd yr ymateb?

Mae AS Llafur, Nia Griffith, wedi dweud bod y sylw'n "annheg iawn" wrth i ardal Pen-y-bont ddelio gyda cholled ffatri Ford yn ddiweddar, a chynllun posib Ineos.

Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru bod Mr Johnson wedi "camarwain pobl Cymru, un ai'n fwriadol neu drwy esgeulustod" a galwodd am ymddiheuriad.

Ychwanegodd ei bod yn "gyfarwydd â chamddefnydd ffeithiau" y prif weinidog, ond nad oedd modd amddiffyn y ffaith bod Mr Hart wedi ei gefnogi.

Beth ddywedodd Llywodraeth y DU?

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y prif weinidog wedi gwneud camgymeriad ddydd Mercher.

Dywedodd llefarydd bod y llywodraeth yn "buddsoddi'n helaeth i ymestyn cadwyn gyflenwi'r DU" ym maes cerbydau trydan.

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn "parhau i weithio gyda buddsoddwyr ar gynlluniau i gynhyrchu'r batris fydd eu hangen gan y genhedlaeth nesaf o gerbydau trydan".