Galw am frechu pobl ag anableddau dysgu yn gynt

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TeuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Gillibrand, gydag Adam yn y canol gyda'i dad, y Parchedig John Gillibrand

Mae pwysau ar Lywodraeth Cymru i fod yn "fwy hyblyg" er mwyn blaenoriaethu pobl ag anableddau dysgu sydd mewn cartrefi preswyl i gael brechlyn coronafeirws.

Yn ôl elusen Mencap Cymru mae pobl ag anableddau dysgu dros chwe gwaith yn fwy tebygol o farw â Covid-19 na'r rheiny sydd heb.

Dadl yr elusen yw bod yna dystiolaeth bendant o berygl ychwanegol y gallai pobl ag anableddau dysgu farw â'r haint, a dyna pam eu bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y polisi brechu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "dilyn argymhellion y pwyllgor brechu yn unol â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac yn brechu'r bobl sydd â'r peryg mwyaf o ddal coronafeirws a datblygu salwch difrifol".

"Y nod yw brechu pawb yng ngrwpiau 1-4 erbyn canol Chwefror a phawb yn grŵp 6 erbyn y gwanwyn," meddai llefarydd.

Ond yn ôl Mencap Cymru does "dim synnwyr mewn peidio â chymryd y cyfle i frechu grŵp cymharol fach o bobl a'u codi o gategori 6 i gategori 4".

'Wythnosau pryderus o'n blaenau'

Mae'r Parchedig John Gillibrand, offeiriad ym Mhontarddulais, yn poeni am ei fab Adam, sydd yn ei 20au ac mewn cartref preswyl.

Mae ganddo anableddau dysgu difrifol a gofynion iechyd cymhleth, ond yn ôl Dr Gillibrand mae Adam yng nghategori 6 o ran blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn.

Mae'r parchedig yn dadlau y dylai ei fab, a miloedd o bobl eraill tebyg sydd ag anableddau dysgu ac mewn cartrefi preswyl, fod mewn categori uwch er mwyn cael eu brechu'n gynt.

"Mae wythnosau pryderus o'n blaenau," meddai. "Mae Llywodraeth Cymru yn sôn am y gwanwyn ond mae wyth wythnos yn amser hir i ni.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig John Gillibrand yn galw am roi blaenoriaeth i bobl fel ei fab, Adam

"Mae Adam ar y sbectrwm awtistiaeth, mae ganddo anableddau dysgu, ac ymddygiad heriol yn ogystal - oherwydd hynny mae'n cael gofal llawn amser 24 awr y dydd, ac mae hefyd yn ddi-iaith.

"Ni fyddai rhoi'r brechlyn iddyn nhw yn effeithio rhyw lawer ar y ddarpariaeth - mae llawer mwy na hynny yn cael y brechlyn pob diwrnod.

"Ond mi fyddai'n gwneud anferth o wahaniaeth i bobl sydd ag anableddau dysgu."

'Tystiolaeth ddiamau'

Dywedodd cyfarwyddwr Mencap Cymru, Wayne Crocker bod yna "dystiolaeth ddiamau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn fwy tebygol o farw o Covid-19".

"Mae tua 3,500 o bobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn rhyw fath o gartref preswyl.

"Bydd nifer o'r rhain mewn grwpiau blaenoriaeth uwch oherwydd eu hoed neu gyflwr meddygol arall, felly ry'n ni'n gofyn i'r rheiny sy'n weddill i gael eu cynnwys yng ngrwpiau 1-4."

Pynciau cysylltiedig