Dau gyfle i brynu tir am £25,000 a chodi cartref cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Tir ger stad yn Nhiliau Aeron

Mae cynllun peilot yng Ngheredigion yn anelu at geisio helpu pobl leol i gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol eiddo.

Mae'r cyngor yn cynnig y ddwy lain adeiladu am amcanbris gostyngol o £25,000 yr un.

O gael caniatâd cynllunio fe fydd y prynwyr llwyddiannus yn cael codi eu cartrefi eu hunain ar y tir sydd ger ystâd Parc yr Hydd ym mhentref Ciliau Aeron.

Bwriad y cyngor gyda'r cynllun peilot hwn yw helpu trigolion Ceredigion i adeiladu dau gartref cychwynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans - sy'n gyfrifol am yr economi ac adfywio ar gabinet Cyngor Ceredigion - bod y cynllun yn gyfle newydd a chyffrous i bobl y sir.

'Mae angen i ni wneud rhywbeth'

"Ry'n ni gyd fel cynghorwyr yn gwybod bod angen hyn yng Ngheredigion - ac mewn llefydd eraill yng Nghymru - i bobl sydd eisiau dechrau ar yr ysgol dai am y tro cyntaf," meddai.

"Y teimlad oedd bod angen i ni wneud rhywbeth, felly dyma'r cam cyntaf yn y gobaith y bydd pobl yn dangos diddordeb.

"Mae [cael eich tŷ cyntaf] yn broblem fawr. Ni'n gweld hyn yn y pwyllgor cynllunio. Mae llawer iawn o bobl angen tai yng nghefn gwlad ond mae polisïau yn eu hatal.

"Mae cynnig hyn, tai fforddiadwy, yn golygu y bydd wastad cyfyngiadau ar y plotiau.

"Felly, os yw pwy bynnag sy'n adeiladu nhw yn symud ymlaen rywbryd, byddwn ni wastad yn gallu sicrhau mai pobl Ceredigion fydd yn eu prynu'r tai nhw yn y dyfodol."

Cynghorydd Rhodri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl amod ynghlwm â'r cyfle, medd y Cynghorydd Rhodri Evans

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun hunan-adeiladu sydd â'r nod o "gael gwared ar rwystrau sy'n atal pobl rhag adeiladu eu cartrefi eu hunain".

O dan y cynllun hwnnw mae'n rhaid cadw at ddetholiad o ddyluniadau ar gyfer y tai sydd wedi'u cytuno ymlaen llaw.

Dyw prosiect peilot Ceredigion ddim yn rhan o gynllun y llywodraeth, oherwydd yn ôl y Cynghorydd Evans dyw e ddim yn caniatáu i bobl wneud y gwaith adeiladu eu hunain.

"Os y'ch chi am wneud y gwaith eich hunain fel person hunan-gyflogedig, fyddwch chi ddim yn medru gwneud hynny [o dan gynllun y Llywodraeth]," meddai.

"Ry'n ni'n teimlo ei bod hi'n fwy fforddiadwy i gael unigolyn i gymryd y cyfle euraidd hwn i roi stamp ei hun ar y tŷ ac efallai adeiladu fe ei hunan."

Tir ger ystâd Parc yr Hydd, Ciliau Aeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tir dan sylw ger ystâd Parc yr Hydd

Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gofyn i bobl leol fynegi diddordeb yn y cynllun peilot erbyn 26 Chwefror.

Er mwyn bod yn gymwys i brynu un o'r lleiniau bydd yn rhaid i bobl fodloni cyfres o feini prawf ar gyfer tai fforddiadwy.

Mae cymhwyster ariannol, sef y gallu i fenthyca dim mwy na'r swm sy'n ofynnol i brynu'r eiddo am ei bris gostyngol ynghyd â 10% o'r pris hwnnw.

Ac mae cymhwyster preswylio hefyd:

  • Cysylltiad lleol yn yr ystyr bod yn rhaid i'r ymgeisydd, ar ryw adeg yn ei fywyd, fod wedi byw yng Ngheredigion neu ardal cyngor tref/cymuned gyfagos (neu gyfuniad o'r ddau) am gyfnod parhaus o bum mlynedd;

  • Neu angen byw yng Ngheredigion i ofalu'n sylweddol am berthynas agos neu dderbyn gofal ganddynt;

  • Neu'r angen i fod yng Ngheredigion at ddibenion cyflogaeth fel gweithiwr allweddol ar sail barhaol, amser llawn.

Hefyd bydd disgwyl i ymgeiswyr fyw yn yr eiddo fel ei unig gartref.

'Nifer wedi gadael yr ardal'

Mae Meirian Morgan yn athrawes o bentref Bwlchllan yn wreiddiol, sydd wedi prynu ei thŷ cyntaf yn Nhregaron.

Dywedodd bod llawer o'i ffrindiau wedi methu â phrynu gan fod prisiau tai yn y sir tu hwnt i'w cyrraedd.

Mae nifer wedi gadael, yn rhannol er mwyn chwilio am waith ond hefyd oherwydd prisiau eiddo.

Meirian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arbrawf yn gyfle gwych i bobl ifanc yr ardal, medd Meirian Morgan

"Fi'n credu bod y ffaith bod pobl mwy cefnog yn dod i ymddeol i'r sir yn ffactor wrth brisio pobl ifanc allan," meddai.

"Hefyd y ffaith bod lot o bobl yn prynu tai yng Ngheredigion ac yn eu troi nhw mewn bythynnod gwyliau neu Airbnbs- mae hynny hefyd yn broblem, ac yn y diwedd dim ond lle ar gyfer gwyliau fydd lot o bentrefi Ceredigion a bydd pobl ifanc yn colli allan."

Dywedodd Meirian ei bod hi'n meddwl y bydd cynnig y lleiniau fforddiadwy yn apelio i bobl ifanc sydd yn chwilio am gyfle i godi tŷ eu hunain.

"Dw i'n meddwl bod e'n gynllun grêt. Yn amlwg mae'n dibynnu ar sefyllfa unigolyn - os oes gyda chi'r amser i aros am ganiatâd cynllunio, yn gallu adeiladu tŷ eich hunain, a bod e yn wir yn fforddiadwy.

"Dw i'n meddwl dylai'r cyngor wneud mwy o bethau fel hyn i helpu pobl i aros yn y sir."

Mae Cyngor Ceredigion yn meddwl mai dyma'r tro cyntaf i gynllun fel hwn gael ei brofi yng Nghymru.

Os bydd y cynllun peilot yn boblogaidd bydd y cyngor yn ystyried cyflwyno cynllun tebyg mewn rhannau eraill o'r sir.

Pynciau cysylltiedig