Yr Urdd yn cyhoeddi trefniadau Eisteddfod T 2021
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi cadarnhau y bydd gŵyl ddigidol yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor y Sulgwyn am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr na fydd Eisteddfod yr Urdd 2021, oedd fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych, yn mynd yn ei blaen fel yr arfer oherwydd sefyllfa coronafeirws.
Cafodd yr ŵyl ei gohirio y llynedd hefyd oherwydd y pandemig, ac yn hytrach cafodd Eisteddfod T ei chynnal lle'r oedd plant yn cystadlu o adref.
Dywed y mudiad y bydd yr Eisteddfod T eleni yn "fwy arbrofol, blaengar a chyffrous".
Fe wnaeth 6,000 o blant a phobl ifanc gystadlu yn Eisteddfod T y llynedd, yn ôl Yr Urdd.
Mae Rhestr Testunau 2021 a chyfarwyddiadau ar sut i gystadlu bellach wedi'u cyhoeddi, dolen allanol, gyda chofrestru i gystadlu yn agor ar 1 Mawrth.
Bydd disgwyl i gystadleuwyr gyflwyno gwaith cyfansoddi, fideos o berfformiadau a lluniau o'u gweithiau creadigol o flaen llaw.
Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu darlledu mewn cyfres o raglenni ar S4C a BBC Radio Cymru dros bum diwrnod - rhwng dydd Llun, 31 Mai a dydd Gwener, 4 Mehefin.
'Sêr TikTok y dyfodol'
"Mi ydan ni'n benderfynol o gynnal Eisteddfod T fwy arbrofol, arloesol a chyffrous nac erioed o'r blaen," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Siân Eirian.
"Dyma gyfle i feithrin ac arddangos talent o bob math, o gantorion a llenorion i sêr TikTok y dyfodol.
"Yn ogystal â'r cystadlaethau mwy traddodiadol fel llefaru neu'r alaw werin, mae modd i unigolion, grwpiau mewn 'swigod' a theuluoedd gymryd rhan mewn cystadlaethau mwy anffurfiol.
"Mae yna hyd yn oed cystadlaethau i athrawon ac aelodau hŷn o'r Urdd!
"Rydan ni'n gobeithio bydd yr arlwy amrywiol yn plesio ein Heisteddfodwyr arferol, ond yn denu llawer o'r newydd, hefyd."
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, fod Eisteddfod T wedi "codi calonnau a dod â hwyl i gannoedd o deuluoedd yn ystod cyfnod anodd a thywyll y llynedd".
"Mae S4C yn falch iawn o gydweithio gydag Urdd Gobaith Cymru eto, gan ddarlledu mwy o oriau eleni yn llinol ac ar draws ein platfformau digidol drwy gydol yr wythnos," meddai.
Dywed Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw, ei bod hi "mor bwysig fod ein plant a'n pobl ifanc yn parhau i gael llwyfan cenedlaethol er mwyn dangos eu doniau a'u sgiliau".
Y bwriad bellach yw cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2022 - dwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.
Mae'r mudiad wedi dweud eu bod nhw wedi colli £14m o incwm yn ystod 2020, ac yn wynebu dyled o £3.5m.
Dywed yr Urdd mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 aelod staff wedi gadael allan o gyfanswm o 328.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mai 2020