Lle i enaid gael llonydd: Terwyn Davies
- Cyhoeddwyd
Mae Terwyn Davies, cyflwynydd rhaglen Troi'r Tir a chynhyrchydd rhaglen Ifan Evans ar Radio Cymru yn dod yn wreiddiol o Ddyffryn Aeron yng Ngheredigion, ond bellach yn byw gyda'i wraig Ceri yn nhref Caerfyrddin.
Yma mae'n disgrifio ei hoff le, yn ei ardal enedigol yn Nyffryn Aeron:
Gyda hithau wedi bod yn flwyddyn reit rhyfedd, yn anffodus dwi ddim wedi cael llawer o gyfle i fynd i un o fy hoff lefydd - ond dwi'n edrych ymlaen at gael mynd nôl 'na 'to cyn hir pan fydd yr amgylchiade'n caniatáu i ni deithio.
Mae e wir yn leoliad lle mae modd i chi gael llonydd go iawn - heb glywed yr un sŵn trefol yn unman - lle arbennig yn fy ardal enedigol.
Ces i fy magu ar dyddyn yng nghefn gwlad Ceredigion lle'r oedd digon o le i fynd am dro pan o'n i'n iau - digon o lefydd i grwydro'n ddiogel a chwilota am bob math o fywyd gwyllt.
Ro'n i'n lwcus iawn o fyw ar dir mewn ardal lle'r oedd olion rheilffordd Dyffryn Aeron yn dal i'w gweld yn y caeau, i lawr ar bwys yr afon. Caewyd y rheilffordd am y tro olaf yn 1973, ac ar bwys halt Blaenplwyf lle o'n i'n byw, mae cael ailymweld â'r safle a chael cerdded ar hyd yr hen olion rheilffordd yn brofiad pleserus iawn.
Mae'r atgofion yn llifo'n ôl pan af i yno. Mae hyd yn oed yr hen giât yno ers dyddie'r rheilffordd, ac mae'n siŵr y bydde honno'n gallu adrodd cyfrolau 'se hi'n gallu siarad.
'Lle arbennig i hel atgofion'
Roedd fy rhieni yn mynd â fi a'm chwaer i lawr i'r tir ger yr afon yn aml pan o'n ni'n blant, i gael picnic yn yr haf falle, a threulio oriau yn gwrando ar sŵn yr afon a rhoi'n traed yn y dŵr.
Er i ni golli Mam pan o'n i'n bymtheg oed, mae cael mynd nôl lawr i'r 'railway' fel ry'n ni'n galw'r ardal, yn dipyn o wefr - lle arbennig i hel atgofion, ac i chwilio am y 'syfi goch' - y mefus bach gwyllt sy'n tyfu ar hyd yr hen olion traciau. Mae gwrando hefyd ar sŵn yr afon yn llifo yn gallu rhoi ryw lonyddwch anghyffredin i chi.
Mae 'nhad yn lwcus dros ben o fod wedi gallu mentro i'r llecyn bach yma yn aml yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Pan ddaw y cyfnod clo i ben, dwi'n edrych ymlaen eto at gael dychwelyd i'r 'railway' yn Nyffryn Aeron, i gael cerdded ar hyd yr hen gledrau, i bwyso ar yr hen giât, ac efallai i wrando'n astud, rhag ofan y bydda i'n gallu dychmygu clywed y trên bach yn gweithio'i ffordd yn ara' bach drwy'r dyffryn.
Hefyd o ddiddordeb: