Cau cartref gofal ac arestio menyw ar ôl ymchwiliad heddlu

  • Cyhoeddwyd
Police car
Disgrifiad o’r llun,

Mae heddlu de Cymru yn cysylltu â theuluoedd y preswylwyr am yr ymchwiliad

Mae cartref gofal yng Nghaerdydd wedi cau ar ôl i'r heddlu ymchwilio mewn i bryderon am safon gofal preswylwyr.

Mae menyw, 44, wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gamdriniaeth gan ddarparwr gofal a chamdriniaeth o glaf heb allu, yn ôl Heddlu De Cymru.

Mae'r fenyw a ddrwgdybir, o ardal Pontypridd, ar fechnïaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd cyngor Caerdydd ei fod yn gofalu am y preswylwyr arall tan fod nhw'n "dod o hyd i lety addas arall".

Dywedodd yr heddlu ei fod yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i gysylltu â theuluoedd y preswylwyr am yr ymchwiliad.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y cyngor bod y perchennog wedi dweud ei fod "am gau'r cartref gofal preifat".

"Mae staffio a llawer o gefnogaeth i oruchwylio'r safle wedi cael eu darparu gan gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, gyda mesurau wedi'u rhoi mewn lle yn syth i sicrhau lles y preswylwyr," meddai.

Mae ymchwilwyr heddlu hefyd yn gweithio'n agos gyda'r cyngor a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Pynciau cysylltiedig