Twyll rhamant ar gynnydd yn ystod y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Rhywun yn edrych ar wefan ganlyn

Ar drothwy penwythnos San Ffolant, mae heddluoedd Cymru'n rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus yn dilyn cynnydd sylweddol mewn twyll rhamant yn ystod y pandemig.

Yn ôl tri o'r pedwar llu heddlu, mae dioddefwyr wedi colli £3.75m rhyngddyn nhw y llynedd yn unig, ac mae yna rybudd mai ond crafu'r wyneb y mae'r ystadegau hynny.

Mae dioddefwyr yn cael eu targedu drwy apiau a gwefannau canlyn neu gemau cyfrifiadurol, ac mae twyllwr yn defnyddio lluniau ffug neu'n ffugio argyfyngau teuluol i annog pobl i drosglwyddo arian i'w cyfri.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae pobl wedi colli eu cartrefi, ac maen nhw'n pryderu bod cannoedd o bobl yn dioddef yn dawel gan fod gormod o gywilydd ac embaras i ddod at yr heddlu.

Cafodd y ffigyrau canlynol eu casglu gan raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru:

  • Rhwng Ionawr a Rhagfyr 2020, fe gollodd 82 o ddioddefwyr yn ardal Heddlu Dyfed-Powys gyfanswm o £1.6m;

  • Collodd 39 o ddioddefwyr gyfanswm o £1.2m rhwng Ebrill a Rhagfyr y llynedd yn ardal Heddlu'r Gogledd;

  • Yn rhanbarth Heddlu'r De, collodd 126 o ddioddefwyr gyfanswm o £975,000 rhwng Ionawr a Rhagfyr y llynedd;

  • Doedd Heddlu Gwent ddim yn gallu darparu ffigyrau.

Disgrifiad,

Rebecca Jones, Swyddog Diogelu Twyll i Heddlu Dyfed Powys, yn trafod twyll rhamant

Rhy berffaith i fod yn wir?

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae uned Trais a Throsedd Difrifol Heddlu Dyfed-Powys wedi cynnal seminarau ar wefannau cymdeithasol i rybuddio pobl am y math o dechnegau sy'n cael eu defnyddio ar-lein.

Ymhelaethodd Swyddog Diogelu Twyll gyda'r llu, Rebecca Jones ar rai o'r dulliau hyn ar Dros Frecwast.

"Mae'r math yma o sgam yn dechre pan mae dioddefwyr yn gweld proffil ar-lein ar Facebook neu dating website lle mae yna dudalennau sydd yn rhy berffaith ac yn too good to be true, lle mae'r cariad yn edrych fel model neu'r person perffaith.

"Ma' ganddyn nhw swydd dda - er enghraifft, yn y fyddin, ar oil rig neu yn feddyg, a ma' nhw'n gofyn lot o gwestiynau amdanoch chi.

"Ma' nhw'n datblygu perthynas a wedyn ma yna crisis point lle ma nhw'n dechre gofyn am arian - er enghraifft, biliau meddygol, aelod o'r teulu eisiau help neu methu cael arian I'w cyfrif banc, ac angen benthyciad gennych chi neu eisiau arian i ddal flight i'ch gweld chi.

"Ma' nhw'n targedu unrhyw un - o bobl proffesiynol i bobl di-waith. Mae rhai wedi colli punnoedd i gannoedd o filoedd o bunnau, neu eu cartrefi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd: "Y broblem ni'n cael yw - os ni'n cael rhywun yn dod ymlaen sydd wedi cwympo am 'wbath fel hyn, fel arfer nage nhw 'di colli 'chydig o bunnau neu wedi gweld y twyll cyn cwympo.

"Ond o'n ni'n cael galwadau gan aelodau o deulu neu ffrindiau. Ni'n gwybod amser 'na, ma' rheiny efo lot o waith rownd nhw achos dyw'r dioddefwyr ddim yn deall bod nhw'n victim i ramant twyll.

"Yn anffodus, 'da ni'n aml ddim yn gallu mynd â nhw i'r llys. Mae lot o hyn yn digwydd dramor gan dwyllwyr mewn gwledydd fel Nigeria a Ghana. Ond mae peth ohono'n digwydd yma ym Mhrydain. Unwaith mae'r arian wedi mynd dramor mae'n anodd ei gael o'n ôl.

"Mae'n rhaid bod yn ofalus ar-lein a ni'n galw am i deulu a ffrindiau gadw golwg mas am bobl sydd mewn cysylltiad gyda'u perthynas nhw - er enghraifft, os ydan nhw'n siarad efo bobl ar-lein gofynnwch gwestiynau amdanyn nhw."

Cyngor osgoi twyll rhamant

  • Peidwich â rhuthro i mewn i unrhyw beth.

  • Os ar wefan ganlyn, arhoswch arno - peidiwch â gadael y wefan i archwilio ymhellach.

  • Gofynnwch llawer o gwestiynau - mae twyllwyr yn gyndyn i drafod eu hunain.

  • Edrych ar y proffil ar y we - ydy o yna ers sbel? A yw'n ymddangos yn rhy berffaith? Ydi'r sawl yn eithriadol ddeniadol yr olwg? Oes yna rywbeth ddim cweit yn taro deuddeg? Os felly, byddwch yn wyliadwrus.

  • Mae yna wefannau sy'n galluogi pobl i weld os ydy llun y twyllwr wedi cael ei ddwyn o ffynhonnell arall.

  • Siaradwch gyda ffrindiau a teulu yn gyson, a peidiwch â rhannu arian na manylion banc gydag unrhyw un.