Merch y diweddar bêl-droediwr Dai Davies yn cofio ei thad

  • Cyhoeddwyd
Dai Davies began his professional career when he joined Swansea in 1969Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

'Roedd Dad yn gymaint o hwyl ar yr aelwyd,' medd Rhian ei ferch ieuengaf

"'Dan ni wedi colli tad a thad-cu bendigedig a dyn oedd yn Gymro balch a bonheddig," medd Rhian, merch y diweddar bêl-droediwr, Dai Davies, a fu farw yn gynharach yr wythnos hon yn 72 oed.

"Mae'n anodd ei ddisgrifio'n iawn mewn geiriau," ychwanegodd Rhian ond "'dan ni mor browd o fod yn blant iddo.

"Dyn cyffredin oedd Dad o Lanaman ac fe gafodd yrfa fendigedig ond wnaeth o erioed anghofio am ei wreiddiau. Roedd o'n ddyn pobl - yn awyddus i siarad â phawb ac hyd y diwedd yn cofio enwau cefnogwyr, nyrsys a glanhawyr."

Wrth siarad ar raglen Ar y Marc dywedodd Rhian ei bod am ddiolch yn arbennig i'r bobl a anfonodd negeseuon ac atgofion i'w rhannu gydag ef yn ei ddyddiau olaf.

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Dai Davies saith mlynedd gyda chlwb Everton ac enillodd 52 o gapiau i Gymru rhwng 1975 a 1982

Ym mis Awst 2020 fe wnaeth teulu cyn-golwr Cymru apelio ar bobl i rannu eu hatgofion amdano wedi iddo dderbyn y newyddion bod ganddo ganser terfynol.

'Pob stori yn cyflwyno rhan o Dad i ni'

"Cyn iddo ddod adref yn y cyfnod diwethaf roedd Dad yn cael ei drin yn Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam ar ôl derbyn diagnosis o ganser y pancreas a fuasech chi ddim yn credu faint mae atgofion a straeon pobl yn ei olygu i ni fel teulu.

"'Dan ni wedi gorfod rhannu Dad efo'r byd, wrth gwrs, ond roedd y cyfnod yna pan oedd o yn yr hosbis - yn rhannu atgofion pobl amdano - yn gyfnod arbennig iawn. Roedd pob stori yn cyflwyno darn bach o Dad i ni.

"Nathon ni'r apêl ac o fewn tridiau roeddan ni wedi cael dros bum cant o e-byst gan gefnogwyr a chwaraewyr pêl-droed - roedd un dynes wedi teipio ei hunangofiant ac fe wnaeth un dyn anfon menig pêl-droed ato.

"Ro'dd o'n teimlo fel ein bod ni ar draeth a bod ton enfawr wedi dod atom i'n helpu drwy gyfnod anodd - 'dan ni mor ddiolchgar," ychwanegodd Rhian.

Ffynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Nid gêm gyfartal oedd hi yn Anfield yn anffodus. Colli 0-2 fu hanes Cymru ar y noson; gêm sydd wedi ei saernïo ar gof pob cefnogwr Cymru am y llawio gan Joe Jordan!

Dywedodd hefyd ei fod yn ddyn eitha gwahanol ar yr aelwyd ac nad oedd mor ddifrifol ag yr oedd yn ymddangos ar y cyfryngau wrth drafod pêl-droed.

Dyddiau cynnar

"Ro'dd o'n lot o hwyl pan o'dd o adre a byddai'n cael ni blant i eistedd ar ei draed o pan oedd o'n gneud sit-ups ac yna byddai'n rhoi sws i ni. Roedd o bant o adref yn aml wrth gwrs yn chwarae pêl-droed.

Disgrifiad o’r llun,

'Roedd o'n Dad a thad-cu arbennig,' medd Rhian wrth roi teyrnged i'w thad Dai Davies ar raglen Ar y Marc

"Ei Dad yng Nglanaman mae'n debyg a'i anogodd i chwarae. Roedd William John hefyd yn dipyn o chwaraewr ond fe ddewisodd fynd i weithio yn y pyllau glo. Dwi'n meddwl ei fod wedi difaru a bod o ddim am i Dad wneud yr un peth.

"Byddai Dad yn mynd gyda fy nhad-cu bob dydd Sadwrn i'r clwb pêl-droed - byddai'n cario dŵr i'r ystafelloedd newid ac yn ffurfio llinellau ar y cae drwy dorri tyweirch. Doedden nhw ddim yn gallu fforddio sialc!

"Roedd clwb Wrecsam yn hynod o agos i'w galon o hyd a byddai'n sôn yn aml am y diwrnod hwnnw yr arwyddwyd ef a Dixie McNeil i chwarae i'r tîm - roedd o'n gyfnod hapus ofnadwy.

"Yr uchafbwynt wrth gwrs oedd chwarae i Gymru ac roedd o wedi cael breuddwyd rhyw dro pan yn hogyn bach bod gôl-geidwad Cymru wedi brifo a bod rhywun wedi galw ar Dai Davies i ddod i'r ystafell newid - a do fe gafodd y freuddwyd ei gwireddu.

"Roedd o'n Gymro mor falch - ac yn un o'r rhai oedd wedi sicrhau bod ein hanthem genedlaethol yn cael ei chanu ar ddechrau gemau.

"Gallwn ni ddim dychmygu gemau pêl-droed heb Hen Wlad fy Nhadau a'r tro nesaf byddai'n clywed yr anthem fe fyddai'n meddwl am Dad.

"'Dan ni mor browd i fod yn blant iddo ond hefyd am ddiolch yn arbennig i Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam am ddysgu iddo gerdded eto ac wedi iddo gryfhau mi gafodd ddod adre yn ystod ei ddyddiau olaf. Mi 'nathon nhw job ffantastig yn rhoi'r amser ychwanegol yna i ni gael paratoi," ychwanegodd Rhian.

Mae Dai Davies yn gadael gwraig Judy a thri o blant - Bethan, Gareth a Rhian.

Mae modd clywed y cyfweliad yn llawn yma.