Cyn-golwr Cymru, Dai Davies wedi marw yn 72 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-golwr Cymru, Dai Davies wedi marw yn 72 oed.
Roedd wedi bod yn brwydro canser y pancreas ac wedi bod yn aros mewn hosbis hyd at ddiwedd ei oes.
Chwaraeodd dros glybiau Abertawe, Everton, Tranmere Rovers, Bangor a Wrecsam rhwng 1969 ac 1987.
Ef oedd y golwr cyntaf i ennill 50 o gapiau dros Gymru.
Roedd yn aelod o'r tîm lwyddodd i drechu Lloegr oddi-cartref ym Mai 1977 - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 1936.
Bu'n sylwebydd ac yn gyfrannydd hefyd ar raglenni gemau rhyngwladol S4C yn dilyn ei ymddeoliad.
Ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru brynhawn Mercher, dywedodd y sylwebydd Nic Parry: "Roedd o bob amser yn gefnogol, wastad yn fodlon cynnig ei help pan o'n i angen cyfweliad neu wybodaeth...
"Yn nes ymlaen yn ei yrfa - fel y buodd gyda chymaint o bêl-droedwyr eraill oedd yn 'ail lais' mewn sylwebaethau - wastad yn barod i roi gair o gyngor, ac yn rhyfedd iawn dyna un o'r pethau mae'r pêl-droedwyr fuodd yn chwarae gyda fo yn ei ddweud amdano fo.
"Mae hynny yn cynnwys cyn golwr Cymru Neville Southall, oedd yn dweud mai yr hyn roedd o yn ei gofio am Dai - pan oedd angen cefnogaeth pan oeddech chi ar i lawr, doedd neb gwell i'ch codi chi, i'ch dyrchafu chi, ac mi oedd o'n cyflawni y dyletswydd yna at ei gyd-ddyn... mae hynna yn rhywbeth gwerthfawr iawn y byddai'n cofio amdano fo."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar Twitter, dywedodd cyn gyd-chwaraewr Mickey Thomas: "Trist iawn clywed am golli Dai Davies fu'n chwarae gyda mi yn Wrecsam a Chymru. Cymeriad mawr a phêl-droediwr gwych... bydd colled ar ei ôl."
Daeth teyrnged arbennig hefyd gan Neville Southall, a olynodd Dai Davies fel golwr Cymru. Dywedodd: "Cwsg mewn hedd Dai Davies. Fy ffrind, gŵr bonheddig, ysbrydoliaeth a Chymro go iawn.
"Mentor gwych a golwr heb ei ail."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn enedigol o ardal Glanaman yn Sir Gâr, roedd wedi ymgartrefu yn Llangollen, Sir Ddinbych yn fwy diweddar lle bu'n rhedeg clinig iechyd naturiol.
Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ac fe hyfforddodd i weithio fel athro ymarfer corff.
Ond ymunodd gydag Abertawe yn 21 oed yn fuan ar ôl gorffen ei hyfforddiant.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 22 oed cyn arwyddo i Everton am £40,000 ar ôl llond llaw o gemau dros yr Elyrch.
Treuliodd saith mlynedd gydag Everton cyn symud i'r Cae Ras ac i glwb Wrecsam, ble chwaraeodd y rhan helaeth o gemau ei yrfa.
Chwaraeodd am y tro olaf dros ei wlad yn 1982, gan fethu dim ond chwe gêm ryngwladol allan o 58 dros gyfnod o saith mlynedd.
Davies oedd y golwr gyda'r nifer fwyaf o gapiau cyn dyfodiad Neville Southall.
Roedd Davies yn rhan o dîm Cymru a gurodd Loegr 1-0 yn Wembley ym 1977, a'r tîm a fu'n enwog am faeddu'r hen elyn 4-1 yn Wrecsam bedair blynedd yn ddiweddarach.
Ar ôl ymddeol gyda mwy na 350 o ymddangosiadau cynghrair i'w enw, dychwelodd Davies i bêl-droed gyda Bangor ym 1985-86.
Chwaraeodd yn eu hymgyrch yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop ac arbed cic gosb mewn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn cewri Atletico Madrid.
Dychwelodd i Wrecsam am ail gyfnod byr, gan hawlio trydydd Cwpan Cymru ei yrfa, cyn iddo orffen chwarae.
Aeth yn ôl i weithio fel athro am gyfnod yn dilyn ei ymddeoliad.
Roedd yn Gymro balch ac fe gafodd ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2016