Cofio Dai Davies, cyn-golwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r sylwebydd Nic Parry, wedi rhoi teyrnged i'w gyfaill a'i gydsylwebydd, Dai Davies, cyn-golwr Cymru, Abertawe, Everton a Wrecsam a fu farw yn 72 mlwydd oed.
Cefnogol
"Roedd o bob amser yn gefnogol, wastad yn fodlon cynnig ei help pan o'n i angen cyfweliad neu wybodaeth...
"Yn nes ymlaen yn ei yrfa - fel y buodd gyda chymaint o bêl-droedwyr eraill oedd yn 'ail lais' mewn sylwebaethau - wastad yn barod i roi gair o gyngor, ac yn rhyfedd iawn dyna un o'r pethau mae'r pêl-droedwyr fuodd yn chwarae gyda fo yn ei ddweud amdano fo.
"Mae hynny yn cynnwys cyn golwr Cymru Neville Southall, oedd yn dweud mai yr hyn roedd o yn ei gofio am Dai - pan oedd angen cefnogaeth pan oeddech chi ar i lawr, doedd neb gwell i'ch codi chi, i'ch dyrchafu chi, ac mi oedd o'n cyflawni'r dyletswydd yna at ei gyd-ddyn... mae hynna yn rhywbeth gwerthfawr iawn y byddai'n cofio amdano fo."
Dyddiau Everton
"Doedd o ddim wedi cyflawni lot [pan aeth i Everton], roedd wedi bod i goleg Cyncoed, athro oedd o am fod, roedd yn rhannu stafell efo Syr Gareth Edwards...
"Fe brynodd Harry Catterick o am £25,000 ac yn ddiddorol iawn y peth cyntaf wnaeth o ddweud oedd 'ti yn sylweddoli y rheswm dwi wedi dy brynu di ydy dwi eisiau mwy o gefnogwyr o ogledd Cymru i ddod i'n gweld ni'. Roedd hynny yn agoriad llygad.
"Fuon nhw ddim yn flynyddoedd hapus yn Everton ac yn rhyfeddol mewn ryw bedair blynedd a hanner dim ond ddwywaith ymddangosodd o i Everton."
Gyrfa ryngwladol
"Gary Sprake oedd yno o'i flaen o [yn nhîm Cymru]. Roedd 'na farn gymysg am Dai fel golwr, does dim amheuaeth am hynny. Mae wedi gorfod delio efo gwawd am gyfnodau."
"Ond y ffaith ydy i unrhyw un fyddai'n holi pa mor dda oedd o, mi enillodd o 52 o gapiau rhyngwladol, dyna pa mor dda oedd o.
"Mae gynnoch chi bobl fel John Mahoney a Terry Yorath sy'n edrych yn ôl, ac yn dweud efo gwên ar eu hwynebau, bobl bach os oeddech chi'n gwrando ar Dai, roedd o gystal arweinydd ag awdurdod os nad gwell nag oedd o golwr - roedd hynny'n pefrio. A hynny wrth gwrs oherwydd y balchder cynhenid oedd ganddo fo o fod yn Gymro oedd yn cynrychioli ei wlad."
Pwysigrwydd y Gymraeg
"Roedd o wastad ar gael i fynd rownd ysgolion i siarad am ei waith a thrwy hynny i genhadu dros yr iaith Gymraeg.
"Roedd yn awyddus iawn i gyhoeddi ei hunangofiant (Hanner Cystal â Nhad) nid yn unig i ddweud ei stori ond er mwyn cyfrannu at argaeledd llyfrau poblogaidd yn yr iaith Gymraeg.
"Roedd yn fab i löwr, roedd wedi byw ar aelwyd lle roedd yn deall caledi. Ond roedd yn fab i löwr mewn bro hynod hynod Gymreig ac roedd hynny yn ei wythiennau ac yn un o'r rhesymau ychwanegol pam y cytunodd o i fod yn sylwebydd achos oedd o'n gwybod pa mor bwysig oedd credibility darlledu yn y Gymraeg.
"Roedd o'n derbyn bod y ffaith bod ganddon ni golwr efo dros 50 o gapiau rhyngwladol yn ychwanegu at hynny.
"Felly roedd o'n Gymro da a phan urddwyd Dai o'r Cwm i'r orsedd doedd hi ddim cyn pryd."
Cefndir a dylanwad ei rieni
"Glöwr oedd ei dad ac aeth Dai i lawr i'r pyllau a chael agoriad llygad a sylweddoli pa mor anodd oedd hi lawr fanne. Wnaeth hynny gyfrannu at ei benderfyniad o na fyddai o'n mynd i'r fath le.
"Roedd Willy John a Ceinwen yn rhan allweddol o'i fywyd, fel ei frawd hŷn, y diweddar Tomi. Ond roedd y cysylltiad yna efo'i dad yn bwysig achos roedd ei dad yn bêl-droediwr arbennig o dda.
"Mi aeth ei dad i glybiau mawr y wlad yma i gael prawf felly roedd y ddiddordeb yna mewn pêl-droed mewn ardal lle roedd rygbi yn tra-arglwyddiaethu. Mae o'n dweud y stori, ac mae'n ei dweud efo gwên ar ei wyneb, mai'r transfer mwyaf dadleuol yn ei fywyd oedd pan symudodd o Rhydaman United i Rhydaman Town, bod 'na godi aeliau bryd hynny!
"Ac yn ddiddorol iawn pwy oedd y rheolwr aeth â fo i Rydaman Town ond Roy Saunders sef tad Dean Saunders ddaeth yn adnabyddus yn nes ymlaen yn ei fywyd.
Euros 2016 a symud ymlaen
"Roedd yn ddyn oedd â phersbectif ar fywyd; fydde fo ddim wedi meddwl 'am drist, am ofnadwy bod Cymru wedi cyrraedd a ddim wedi cael y cyfle'. Beth fydde fo wedi ei ddweud fyddai 'pêl-droed ydi o, peidiwch byth ag anghofio hynny'.
"Fe brofodd sawl siom, boddi yn ymyl y lan sawl gwaith fel chwaraewr rhyngwladol ei hun. Ac efo'r profiad yna tu ôl iddo fo, fydde fo wrth gwrs wedi ymfalchïo.
"Ond rhaid dweud hefyd erbyn hynny roedd pêl-droed wedi pylu o safbwynt ei fywyd. Roedd o wedi symud yn ei flaen i bethau fydde fo'n ei gredu oedd yn fwy dyrchafol, ac yn sicr yn bwysicach.
"Ond fe fyddai yna gynhesrwydd mawr wedi bod yn ei galon o pan fyddai Cymru wedi cael y llwyddiant yna a fyddai neb wedi bod â mwy o ddiddordeb yn dilyn yr Euros eleni na Dai, pe byddai wedi bod efo ni."
Hefyd o ddiddordeb: