Arestio dyn wedi ymosodiadau yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae plismyn sy'n ymchwilio i nifer o ymosodiadau anweddus ym Mharc Singleton yn Abertawe ddydd Gwener wedi arestio dyn 27 oed.
Mae e'n parhau yn y ddalfa ac mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu e-bostio i'r cyfeiriad publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk gan ddyfynnu y rhif 2100050725.
Ddydd Sadwrn dywedodd Heddlu De Cymru bod ditectifs yn ymchwilio i nifer o ymosodiadau anweddus o gwmpas Parc Singleton yn Abertawe.
Wedi apêl, dywedodd plismyn eu bod wedi derbyn adroddiad am naw digwyddiad rhwng 08:00 a 13:00 ar y 12fed o Chwefror.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Peter Collins: "Ry'n yn ymwybodol y gall y digwyddiadau yma fod yn peri pryder i bobl leol sy'n defnyddio'r parc yn gyson yn ystod y cyfnod clo.
"Ry'n yn ystyried yr achos yn un cwbl ddifrifol ac mae gennym blismyn ychwanegol yn cadw golwg ar yr ardal.
"Ry'n yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn y parc ddydd Gwener rhwng 8 o'r gloch y bore ac 1 o'r gloch y prynhawn.
"Os na theimlwch bod eich gwybodaeth yn arwyddocaol, cysylltwch beth bynnag gan y gall helpu ymchwiliad yr heddlu."