Teyrnged i weithiwr ambiwlans a fu farw â Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i weithiwr ambiwlans a "dyn teulu ymroddedig" a fu farw ar ôl cael ei heintio gyda Covid-19.
Kevin Hughes, 41, yw'r pedwerydd gweithiwr gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i farw ar ôl profi'n bositif am coronafeirws.
Roedd y technegwr cyfrifiaduron o'r Fali, Ynys Môn, yn briod gydag Emma ac yn dad i dri o blant - Liam, Sioned a Jamie.
Mr Hughes yw'r gweithiwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru diweddaraf i farw gyda Covid-19, yn dilyn marwolaethau'r swyddog galwadau brys Paul Teesdale, y parafeddyg Gerallt Davies, a'r technegydd meddygol Alan Haigh.
Roedd Mr Hughes, a oedd yn gweithio ym mhencadlys y gwasanaeth yn Llanelwy, wedi bod yn sâl am nifer o wythnosau ac fe fu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Yn gefnogwr brwd o Lerpwl, ymunodd Mr Hughes â'r gwasanaeth ambiwlans ym mis Mai 2017, ar ôl gweithio yng nghanolfan Chwilio ac Achub yr Awyrlu yn y Fali, a gyda Chyngor Môn.
Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Bydd colled Kevin yn cael ei deimlo'n ddwfn gan bawb yma ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Emma, ei wraig, plant Kevin a'i deulu ehangach.
"Byddwn yn canolbwyntio nawr ar gefnogi ei deulu a'i gydweithwyr mewn profedigaeth ar yr adeg anoddaf hon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020