'Ergyd aruthrol' colli parafeddyg â coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Gerallt DaviesFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gerallt Davies ei anrhydeddu â MBE am ei wasanaeth i'r maes cymorth cyntaf

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhoi teyrnged i barafeddyg sydd wedi marw gyda coronafeirws.

Gerallt Davies yw'r aelod cyntaf o'r gwasanaeth i farw ar ôl cael Covid-19.

Roedd yn barafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe.

"Mae ei farwolaeth yn ergyd aruthrol i ni oll," meddai prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens.

"Roedd Gerallt, a ymunodd â'r gwasanaeth yn 1994, nid yn unig yn aelod gwerthfawr o'n tîm ni ond yn aelod o Ambiwlans San Ioan hefyd, ble roedd yn Swyddog Gweithredoedd Cenedlaethol."

Ychwanegodd ysgrifennydd ranbarthol Unite Cymru, Peter Hughes fod Mr Davies yn "unigolyn poblogaidd iawn".

"Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei gyd-aelodau Unite, cydweithwyr a phawb oedd yn ddigon ffodus i'w 'nabod," meddai.

"Roedd Gerallt yn arwr ochr yn ochr â holl staff rheng flaen y gwasanaeth iechyd."

Anrhydedd

Oherwydd ei waith gydag Ambiwlans San Ioan fe gafodd Mr Davies MBE yn anrhydeddau'r Frenhines y llynedd am ei wasanaeth i ddarpariaeth cymorth cyntaf yng Nghymru.

Yn 2014, mewn partneriaeth â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, fe helpodd i sefydlu cynllun Man Cymorth Abertawe, sydd wedi darparu gofal i filoedd o bobl mewn angen yng nghanol y ddinas.

Aeth ymlaen i reoli'r gwasanaeth, sy'n helpu lleihau'r angen am driniaeth ysbyty ac sy'n cael ei ystyried yn un o'r goreuon ar draws y DU.

Ychwanegodd Mr Killens: "Rydym yn canolbwyntio nawr ar gefnogi teulu a chydweithwyr Gerallt yn eu galar ar yr adeg anodd hwn."