Rhybudd i heddwas yn dilyn marwolaeth Mohamud Hassan
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas gyda Heddlu'r De wedi cael rhybudd camymddwyn yn dilyn marwolaeth dyn 24 oed yng Nghaerdydd fis Ionawr.
Fe gadarnhaodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) eu bod nhw wedi cyflwyno'r rhybudd fel rhan o'u hymchwiliad i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohammed Hassan cyn ei farwolaeth ar 9 Ionawr.
Mae'r rhybudd camymddwyn yn ymwneud â gwybodaeth na chafodd ei throsglwyddo i staff y ddalfa a oedd yn gyfrifol am les Mr Hassan.
Yn ôl yr IOPC, nid yw cyflwyno rhybudd camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw drosedd.
Mae'n cael ei roi i hysbysu swyddog bod ei ymddygiad yn cael ei ymchwilio.
Beth yw cefndir yr achos?
Ar 11 Ionawr dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n ymchwilio i farwolaeth "diesboniad" dyn 24 oed oriau ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.
Roedd Mr Hassan wedi cael ei arestio am darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach yn ddi-gyhuddiad.
Ychydig dros 12 awr ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa cafodd yr heddlu eu galw i'w gartref gan y gwasanaeth ambiwlans.
Fe arweiniodd ei farwolaeth at sawl protest yng Nghaerdydd, gydag aelodau o'i deulu yn honni fod gan Mr Hassan nifer o anafiadau a chleisiau wedi iddo gael ei ryddhau gan y llu.
Roedd twrnai'r teulu hefyd yn ceisio cael adroddiad patholegydd annibynnol, ac yn galw hefyd ar i heddlu annibynnol ymchwilio i'r mater.
'Mewn poen'
Mewn datganiad brynhawn dydd Llun, dywedodd yr IOPC: "Mynychodd y swyddog gyfeiriad Ffordd Casnewydd, Caerdydd ar 8 Ionawr a mynd gyda Mr Hassan i uned ddalfa Bae Caerdydd y tu ôl i fan heddlu.
"Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd Mr Hassan ei glywed ar gamera, a oedd yn cael ei wisgo ar gorff yr heddwas, yn cwyno am gael ffit, dioddef meigryn, ac arddangos arwyddion ei fod mewn poen.
"Mae'r rhybudd camymddwyn yn ymwneud â'r posibilrwydd na chafodd y wybodaeth hon ei throsglwyddo i staff y ddalfa sy'n gyfrifol am les Mr Hassan," meddai'r datganiad.
Ar eu gwefan dywedodd Heddlu'r De eu bod yn "parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad IOPC ac mae'n darparu gwybodaeth a deunydd iddynt, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng a fideo wedi'i wisgo ar y corff".
Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi'i chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau i fod gyda nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021