Polisi i enwi strydoedd newydd Caerdydd yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cabinet Cyngor Caerdydd wedi cefnogi polisi i roi enwau Cymraeg ar strydoedd newydd y brifddinas.

Byddai strydoedd mewn datblygiadau newydd yn cael enwau Cymraeg i adlewyrchu hanes yr ardal, wrth i'r cyngor geisio cael cydbwysedd o ran enwau Cymraeg a Saesneg ar strydoedd yr ardal.

Fe allai rhai o brif strydoedd yng nghanol Caerdydd a rhai yn y Bae hefyd gael enwau dwyieithog dan bolisi newydd enwi strydoedd gan gabinet y cyngor.

Mae hyn yn golygu y gallai prif strydoedd sydd heb gael enwau Cymraeg yn hanesyddol gael enwau dwyieithog ar arwyddion, fel City Road - Heol y Plwca yn y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y polisi enwi strydoedd yn "adlewyrchu eu gwreiddiau hanesyddol" medd Huw Thomas

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Rydym yn gwybod fod Caerdydd yn tyfu a bydd hyn yn sicrhau bod y strydoedd yn adlewyrchu eu gwreiddiau hanesyddol."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, allan o 2,248 o ymatebion, roedd 60.8% yn cytuno y dylai'r cyngor weithio i gael cydbwysedd rhwng enwau Cymraeg a rhai Saesneg yn y ddinas.

Fe allai enw stryd newydd di-Gymraeg gael ei ystyried mewn "amgylchiadau eithriadol" os yw'n adlewyrchu treftadaeth yr ardal, yn ôl adroddiad gan y cyngor.

Bydd y polisi enwi strydoedd yn dod i rym os yw'n cael ei gefnogi mewn cyfarfod llawn o'r cyngor.