Covid-19 wedi 'datgelu anghyfartaledd brawychus' cymdeithas

  • Cyhoeddwyd
Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhondda Cynon Taf ymhlith yr ardaloedd gyda'r cyfraddau uchaf o achosion a marwolaethau Covid-19

Mae Covid-19 wedi bod yn "ddatguddiad brawychus o gymdeithas anghyfartal", yn ôl melin drafod.

Dywed Sefydliad Bevan bod pobl ar incwm isel wedi "dioddef ergyd enfawr" yn sgil y pandemig.

Mae tair o siroedd Cymru - Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr - yn gyson ymhlith 10 ardal waethaf Cymru a Lloegr o ran marwolaethau, ond amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd pobl sy'n arwyddocaol, medd y sefydliad, yn hytrach na ble maen nhw'n byw.

Dywed llywodraethau Cymru a'r DU eu bod wedi rhoi arian ac adnoddau i gefnogi pobl Cymru drwy'r pandemig.

'Cyfuniad gwenwynig' o ffactorau

Mae pobl ar incwm isel "wedi cael cyfraddau heintio a chyfraddau marwolaeth uwch", medd cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Victoria Winckler. Ar ben hynny, meddai, "mae eu hincwm wedi'i daro'n wirioneddol galed, mae dyfodol eu plant wedi'i effeithio".

Ychwanegodd: "Mae hyn wedi bod yn ddatguddiad brawychus o'n cymdeithas anghyfartal, ac mae'n rhaid i hynny newid."

Dywed bod "cyfuniad gwenwynig" o ffactorau'n golygu bod pobl ar incwm isel yn fwy tebygol o gael eu heintio ac yn llai abl i hunan-ynysu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid gweithredu i newid y sefyllfa, medd Victoria Winckler

"Mae gyda chi bobl sy' methu aros adref oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith. Gyrwyr bws, gweithwyr siop, glanhawyr a gofalwyr, sy' methu gweithio ar liniadur.

"Maen nhw'n aml yn teithio i'r gwaith ar y bws, oherwydd nad oes ganddyn nhw gar, sydd eto'n cynyddu'r risg o gael haint."

Hefyd mae'r disgwyl i deuluoedd rannu ystafelloedd gwely i fod yn gymwys am gymorth yr Adran Waith a Phensiynau (DWP), yn gwneud hi'n anodd i bobl hunan-ynysu, waeth pa mor awyddus maen nhw i ddilyn y rheolau.

Mae'n "amhosib" yn achos rhieni sengl, meddai. Mae'n awgrymu mabwysiadu pedwar cam "yn syth" i leihau'r pwysau ar deuluoedd:

  • Sicrhau fod pobl ar ffyrlo yn cael ei hincwm llawn arferol

  • Estyn y £20 ychwanegol yr wythnos i'r rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol tu hwnt i 31 Mawrth.

  • Caniatáu i deuluoedd sy'n cael budd-dal tai gael ystafell wely sbâr.

  • Sicrhau gliniadur i bob plentyn a data digonol i wneud eu gwaith ysgol.

Dywed Victoria Winckler: "Nes y bydd pawb wedi'u gwarchod... yn y gweithle ac o ran amodau byw, rwy'n meddwl rydym am weld mwy a mwy o fywydau'n cael eu dinistrio gan y feirws, cyfraddau marwolaeth uwch, effeithiau ofnadwy Covid hir a chanlyniadau eraill, fel camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael."

Disgrifiad o’r llun,

Caroline Barr wrth ei gwaith fel swyddog prosiect bwyd cymunedol

Mae Caroline Barr yn swyddog bwyd cymunedol gyda'r elusen ACE (Action in Caerau and Ely) yng Nghaerdydd.

Mae'n cydlynu prosiect sy'n helpu pobl ar incwm isel i brynu bwydydd maethlon ar brisiau gostyngol - cynllun sydd hefyd yn lleihau gwastraff bwyd.

Dywed bod y pandemig wedi bod yn drychinebus i rai pobl.

"Mae rhai pobl wedi gweithio'u holl fywydau a nawr maen nhw wedi eu diswyddo a chael eu hunain mewn sefyllfa na fuon nhw ynddi o'r blaen," meddai. "Mae wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl."

Roedd Rachel Burgess ymhlith un o aelodau cyntaf y cynllun. Mae ei theulu, meddai, "wedi bod trwy'r felin" oherwydd Covid-19.

Bu farw ei modryb gyda'r feirws, cafodd ei merch a'i hwyrion eu heintio, a bu'n rhaid i ffrind gael triniaeth ysbyty.

"Dydy lot o bobl ddim yn sylweddoli pa mor agos yw e a gymaint mae'n taro pobl."

Mae'r cynllun wedi bod o fudd iddi hi a'i merch, sydd wedi bod ar ffyrlo yn ystod cyfnodau clo.

"Ry'ch chi hefyd yn cael talebau ynni sy'n gymorth mawr, yn arbennig gyda'r tywydd oer yn ddiweddar a gorfod aros adre mwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrwyr bws ymhlith y gweithwyr sydd wedi bod â risg uwch o gael eu heintio

Mae gan Chrystal Daveridge dri phlentyn ac mae ei gŵr yn gweithio mewn canolfan ddosbarthu.

Dywed ei bod "wedi fferru dan ofn" dal y feirws, a heintio'i phlant, sy'n cynnwys babi pum wythnos oed.

"Mae fy ngŵr yn ddigon ffodus i fod wedi cadw'i swydd drwy hyn i gyd. Ond yn amlwg, mae mwy o arian nawr yn mynd ar nwy a thrydan i gadw popeth i fynd.

"Ry'n ni adre mwy felly mae'n costio mwy i redeg y tŷ ar y foment... mae arian wedi bod bach yn dynn."

Ymatebion y ddwy lywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "defnyddio'i holl adnoddau" mewn ymateb i'r argyfwng iechyd byd-eang, gyda "chyfres ddigynsail o ymyriadau i warchod iechyd, lles a bywoliaethau pobl".

Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i wneud popeth posib i gefnogi pawb yng Nghymru yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi "ymroddi i gefnogi'r teuluoedd ar y cyflogau isaf trwy'r pandemig".

Mae'r weinyddiaeth, meddai, yn "gwario cannoedd ar filiynau o bunnau" i ddiogelu swyddi, rhoi mwy o gymhorthdal, a sicrhau bwyd a chynhesrwydd i blant a theuluoedd yn ystod misoedd oer y gaeaf.