Covid-19: Ardaloedd difreintiedig yn dioddef mwy

  • Cyhoeddwyd
Dusty Forge
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Dusty Forge yn Nhrelái yn cefnogi nifer o deuluoedd difreintiedig yng ngorllewin Caerdydd

Mae ardaloedd difreintiedig yn dioddef mwy o farwolaethau Covid-19 ar gyfartaledd yng Nghymru nag ardaloedd eraill - dyna mae dadansoddiad o'r ffigurau diweddaraf yn eu dangos.

Mae'r pum awdurdod lleol sydd â'r gyfradd uchaf o ran marwolaethau hefyd yn cynnwys yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Maen Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Chaerdydd yn eu plith.

Yn ogystal, mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd tlotach yn fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd sy'n eu rhoi nhw mewn mwy o berygl o gael cymhlethdodau o ganlyniad i'r haint.

Mae Sam Rogers yn byw ac yn gweithio yn y Rhondda ac yn rhan o dîm cymunedol yn ardal Ynyshir a Wattstown.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam Rogers a'i mab Harri wedi bob yn cludo pecynau i gartrefi pobl

Mae hi a'i chydweithwyr wedi bod yn trefnu ac yn dosbarthu dros 500 o becynnau i bobl yr ardal - yn fagiau ar gyfer y rhai sy'n hunan ynysu, yn anrhegion Pasg i blant, neu'n fagiau i godi'r ysbryd.

Rhondda Cynon Taf yw un o'r awdurdodau gyda'r nifer uchaf o wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae Sam sy'n athrawes yn Ynyshir yn dweud mai cryfder go iawn yr ardal yw'r bobl.

"Mae lot o dlodi 'ma - dwi wedi byw 'ma erioed, ges i'n ngeni 'ma. Mae lot o dlodi cymdeithasol ac economaidd - ond wedyn mae'r bobl 'ma mor gryf a ma' lot o wydnwch yma," meddai.

"Dwi'n credu bod y cyfnod yma wedi dod â phobl at ei gilydd er bo' nhw oddi wrth ei gilydd. Rwy'n meddwl bod e wedi dod a'r hen deimlad o agosatrwydd nôl."

Mae mab Sam, Harri Rogers, wedi bod yn helpu ei fam i gludo pecynnau i gartrefi. Mae'n dweud bod derbyn y pecynnau'n rhoi hwb i bobl.

"Mae'n rhoi lift i rai pobl - ma nhw'n gweld y pecynnau - pethe bach ond mae'r pethe bach yn gallu gwneud y gwahaniaeth mwya'," ychwanegodd Harri.

"Does dim lot o waith yma, ma' hyn wedi ei wneud yn fwy anodd i lot o bobl. Mae lot o bobl yn gweithio mewn jobs a ddim yn ennill lot o arian."

'Ymdeimlad o gymuned'

Dywedodd hefyd bod y pandemig wedi amlygu anghenion pobl oedrannus.

"Ma lot o bobl ifanc wedi sylweddoli faint o bobl hŷn sydd yn y gymuned - ma' nhw dishgwl mas amdanyn nhw.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sam wedi bod yn dosbarthu pecynau yn ardal Ynyshir, Rhondda

"Ti'n gweld lot ohono fe ar social media, ma' nhw'n cynnig mynd i'r siopau i'r hen bobl, ti ddim yn tueddu i weld hwnna'n bob man fydde ni'n dweud."

Er bod ystadegau'n awgrymu bod 18 ward o amddifadedd ar draws Rhondda Cynon Taf, mae Sam a Harri'n teimlo'n gryf bod yr ymdeimlad o gymuned yn darparu cyfoeth go iawn.

"Er bod tlodi bydde ni'n dweud bod gobaith a goleuni - a ma'n rhaid canolbwyntio ar hwnna," meddai Sam.

Mae Delyth Jewell yn aelod Senedd Cymru dros ddwyrain de Cymru ac mae'n aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Mae sawl ardal sy'n uchel ar restr Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru o fewn ei hetholaeth. Mae'r mynegai yn mesur sawl math o amddifadedd o fewn ardal gan gynnwys incwm, gwaith, iechyd ac addysg.

Mae hi'n dweud bod y cysylltiad rhwng tlodi a nifer uwch yr achosion o Covid 19 yn "bryder mawr".

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Jewell yn pryderu am y cysylltiad rhwng tlodi a nifer uwch yr achosion o Covid 19

"Rydyn ni'n gwybod bod pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwy tlawd yn debygol o gael cyflyrau iechyd mwy dwys a bod y cyfnod wedi amlygu anghyfartaledd fel y ffaith fod gan rai pobl fynediad i ardaloedd gwyrdd," meddai.

Dywedodd hefyd bod penderfyniadau gwleidyddol a diffyg buddsoddiad yn yr economi a chymunedau yn cyfrannu at y sefyllfa a bod angen ail edrych ar strwythurau.

"Yn y tymor hir bydd angen mwy o ddychymyg yn y ffordd 'da ni'n cynllunio ardaloedd, yn y ffordd da ni'n cynllunio tai, ond hefyd y buddsoddiad 'da ni'n rhoi i'r economi," meddai.

Dywedodd hefyd bod angen gwerthfawrogi'r gweithwyr rheng flaen fwyfwy.

"Nhw sydd wedi bod yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa lot fwy peryglus er mwyn diogelu ni oll."

Cyfradd marwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth (ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru -12 Mai)

  • Rhondda Cynon Taf 83.7

  • Blaenau Gwent 80.3

  • Casnewydd 78.2

  • Merthyr Tudful 78

  • Caerdydd 72

Awdurdodau lleol gyda'r mwyaf o ardaloedd yn y 10% sydd fwyaf difreintiedig yng Nghymru:

  • Casnewydd 24.2%

  • Merthyr 22.2%

  • Caerdydd 18.2%

  • Rhondda Cynon Taf 17.5%

  • Castell-nedd Port Talbot 15.4%

Mae grŵp cymunedol ACE - Action in Caerau & Ely yng ngorllewin Nghaerdydd yn dosbarthu bwyd i deuluoedd yn ardaloedd Caerau a Threlái.

Cyn y pandemig roedden nhw'n cefnogi teuluoedd oedd mewn gwaith ond yn ceisio dal dau ben llinyn ynghyd. Ond mae hynny bellach wedi'i ehangu i'r gymuned.

Dywedodd swyddogion bod nifer yn yr ardal cyn Cofid-19 ar gontractau sero awr ac ar gyflogau isel. Mae pryder yno am nifer y marwolaethau yn yr ardal a'r problemau ariannol sy'n wynebu nifer.

Mae Aled Williams yn swyddog ieuenctid gyda ACE ac er gwaetha'r caledi meddai mae'r gymuned yn gadarn.

"Mae lot o bobl wedi dod at ei gilydd a helpu, mae lot o bobl yn gwirfoddoli i wneud pecynnau bwyd, mynd a prescriptions i bobl ac wrth weithio gyda bobl ifanc, 'da ni wedi mynd am grantiau gwahanol, 'da ni wedi gorfod newid y ffordd 'da ni'n gweithio."

Dywedodd bod nifer o'r trigolion lleol yn gweithio mewn meysydd lle nad oedd modd iddyn nhw weithio o gartref a hefyd mae nifer yn weithwyr rheng-flaen.

"Roedd arian yn brin cyn Covid-19," meddai.

"Fydd pethau ddim yn mynd yn haws, bydd pethau'n mynd yn anoddach."