'Hunan-ynysu wedi costio £700 i fy nheulu'

  • Cyhoeddwyd
App y GIG

Mae hunan-ynysu wedi costio cannoedd o bunnoedd mewn cyflogau i bobl sydd ddim yn gallu hawlio cymorth ariannol, yn ôl ymchwil gan y BBC.

Daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd y cynllun grant hunan-ynysu o £500 yn cael ei ehangu fel bod mwy o bobl yn gymwys i'w hawlio.

Roedd incwm teuluol Tracy Moore o Dreffynnon wedi gostwng £700 yn y mis diwethaf, a dywedodd wrth raglen Wales Live bod rhywbeth o'i le ar y system gymorth.

Mae'r llywodraeth yn credu y bydd y newidiadau yn caniatáu i 170,000 yn rhagor o bobl fod yn gymwys i gael y grant.

Pwy sy'n gymwys am £500?

Mae 27,209 o geisiadau am grant hunan-ynysu wedi cael eu gwneud ers dechrau'r cynllun cymorth yng nghanol mis Tachwedd.

Cafodd 8,421 eu cymeradwyo; gwrthodwyd 15,772, a hyd at at 2 Chwefror roedd 3,016 yn disgwyl clywed beth oedd canlyniad eu cais.

Dan y drefn bresennol mae ymgeiswyr yn gorfod dangos eu bod yn wynebu colli incwm wrth hunan-ynysu, ac maent yn gorfod bod yn derbyn o leiaf un o blith nifer o fudd-daliadau.

Mae'n rhaid iddynt hefyd fod naill ai wedi cael gorchymyn i ynysu ar ôl cael prawf positif am Covid-19, neu fod â phlentyn sydd wedi cael gorchymyn gan eu hysgol, neu'r gwasanaeth olrhain.

Os nad yw ymgeisydd yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau ar y rhestr, maent yn gallu gwneud cais am daliad dewisol.

Mae cynghorau lleol yn adrodd mai'r prif reswm dros wrthod ceisiadau yw bod unigolion ddim yn gymwys, neu eu bod heb ddarparu'r dystiolaeth angenrheidiol.

Mae'r llywodraeth yn ehangu'r cynllun i gynnwys pobl sydd ddim ar fudd-daliadau, ond sydd ag incwm o lai na £500 yr wythnos, neu os ydynt ar daliadau salwch.

Mae'r cynllun yn cael ei ehangu hyd at fis Mehefin. Ni fydd y rheolau newydd yn cael eu hôl-ddyddio.

Ffynhonnell y llun, Tracy Moore
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Tracy Moore a'i gŵr Jason gannoedd oherwydd hunan ynysu

Gwelodd Tracy Moore o Dreffynnon ei hincwm teuluol yn gostwng o tua £700 y mis pan fu'n rhaid i'w gŵr a'i mab ynysu fis diwethaf.

Maent yn gweithio i gwmni tarmac, ac roeddynt wedi teithio gyda rhywun a gafodd brawf Covid positif y diwrnod canlynol.

Ar ôl galw 111, cawsant gyngor i ynysu am 10 diwrnod.

Ond pan wnaethant gais am y grant dywedwyd nad oeddynt yn gymwys am nad oeddynt wedi cael gorchymyn ffurfiol gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Yn ddiweddarach dywedodd rhywun arall o'r gwasanaeth 111 na ddylsen nhw fod wedi cael cyngor i ynysu.

Mae Tracy yn anabl, ac nid yw'n gweithio, felly cafodd eu hincwm teuluol ergyd sylweddol.

"Rydym yn byw mor dda ac y gallwn, mae fy rhieni'n helpu lle medran nhw," meddai.

"Mae'r biliau wedi cael eu talu i gyd, ond doedd o ddim yn braf.

"Mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn warthus ac yn anghywir."

'Gwneud popeth i osgoi ynysu'

Dywedodd un ddynes hunan-gyflogedig o Gaerdydd wrth Wales Live ei bod yn osgoi cael prawf Covid, am nad oedd hi'n gymwys i gael y grant, ac y byddai'n anwybyddu galwadau gan y gwasanaeth olrhain.

"Rwyf wedi gwneud popeth i osgoi cael gorchymyn i ynysu," meddai.

"Os yw hi'n ddewis rhwng hunan-ynysu neu neu dalu'r rhent a'r biliau, byddaf yn dewis talu'r biliau."

Mewn astudiaeth gan Brifysgol Abertawe o bobl sydd wedi cael gorchymyn hunan-ynysu yng Nghymru, roedd mwy na chwarter yn dweud ei fod wedi cael effaith negyddol ar eu hincwm.

Dywedoddd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, bod "hunan-ynysu yn allweddol os ydym am stopio lledaeniad coronafeirws".

"Mae'n hanfodol ein bod yn ehangu'r cynllun i helpu mwy o bobl hunan-ynysu a derbyn y cymorth ariannol y maent ei angen.

"Mae'r awdurdodau lleol yn dweud bod y cynllun yn gweithio'n dda gyda bron i 8,500 o daliadau wedi cael eu gwneud.

"Serch hynny gwyddom fod diffyg incwm yn cael ei adrodd fel rhwystr i bobl sy'n hunan-ynysu.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ddiogelu iechyd a lles pobl a byddwn yn parhau i helpu pobl Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn trwy sicrhau bod y rhai sydd fwyaf angen cefnogaeth yn ei dderbyn."

Pynciau cysylltiedig