Rhiwabon: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei nain
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio ei nain.
Cafodd corff Susan Hannaby, 69, ei ddarganfod yn dilyn tân yn ei thŷ yn Rhiwabon ger Wrecsam ar 11 Chwefror.
Cafodd Kyle Ellis, o Ffordd New Hall, Rhiwabon, ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
Mae disgwyl i'r achos llawn gael ei glywed yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 4 Hydref.
Bydd y gwrandawiad nesaf ym mis Mai.