Pedwar achos pellach o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar achos arall o amrywiolyn De Affrica o'r coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.
Daw hyn â chyfanswm achosion yr amrywiolyn hwn i 17.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod pob un o'r pedwar achos newydd naill ai'n gysylltiedig â theithio dramor, neu gyda chysylltiadau perthnasol eraill.
Nid oes tystiolaeth o unrhyw drosglwyddo cymunedol ehangach wedi digwydd.
Strategaeth effeithiol
Mae tri o'r achosion yng ngorllewin Cymru, gyda theithio dramor yn ffactor ymhob un.
Daeth y pedwerydd i'r amlwg trwy olrhain cysylltiadau perthnasol gydag achos a oedd eisoes wedi'i gofnodi yn ardal Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer ymateb i coronafeirws gyda ICC, bod adnabod yr achosion diweddaraf yn dangos pa mor effeithiol oedd y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
"Mae hwn yn nifer fechan o achosion ac nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd i ddweud bod trosglwyddiad cymunedol parhaus wedi digwydd," meddai.
"Nid oes tystiolaeth bod amrywiolyn De Affrica yn achosi salwch mwy difrifol; mae peth tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn gallu lledaenu'n haws, a bod brechlynau - er yn dal yn effeithiol - ddim yn gweithio cystal yn ei erbyn.
"Oherwydd ymddangosiad amrywolion newydd a mwy trosglwyddadwy mae hi hyd yn oed yn fwy hanfodol ein bod ni oll yn glynu at y cyfyngiadau clo a ddim yn cwrdd â phobl eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021