AS Plaid Cymru gerbron llys am aildrydar sylw 'amhriodol'

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

Helen Mary Jones

Mae'r Aelod o'r Senedd, Helen Mary Jones, wedi cael gorchymyn i ymddangos gerbron llys ar ôl iddi rannu sylwadau "hynod o amhriodol" ynglŷn ag achos llofruddiaeth ar y gwefannau cymdeithasol.

Roedd Ms Jones, sy'n AS Plaid Cymru, wedi aildrydar sylwadau gan ymgyrchydd yn erbyn trais domestig, a oedd yn mynegi "gobaith" y byddai rheithgor yn canfod dyn yn euog o lofruddio'i wraig.

Ymddangosodd y sylw ar wefan Twitter ddydd Sadwrn, a chafodd ei ail-drydar gan Ms Jones yr un diwrnod. Roedd yn ymwneud ag achos llys Anthony Williams, 70, a laddodd ei wraig, Ruth, 67, bum niwrnod i mewn i'r cyfnod clo cyntaf, ar 28 Mawrth y llynedd.

Trydariad 'amhriodol'

Roedd y neges, a oedd wedi ei ysgrifennu ochr yn ochr ag erthygl gan y BBC am yr achos llys, yn cynnwys:

"As so many of us will know, there would have been history of domestic abuse.I hope this jury finds him guilty of murder.Rest in peace, Ruth."

Nid oedd modd cyhoeddi'r manylion hyn tan ddydd Mercher, pan gafodd cyfyngiadau gohebu eu codi.

Mae Ms Jones, sy'n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn y Senedd, yn adnabyddus am ei gwaith ymgyrchu dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

Cafodd y sylw Twitter ei ysgrifennu gan Rachel Williams, ymgyrchydd amlwg yn erbyn trais yn y cartref, sy'n gyfrifol am y cynllun Ask for Ani (Action Needed Immediately), y mae Duges Cernyw yn un o'i noddwyr.

Mae Ms Williams hefyd wedi cael gorchymyn gan y Barnwr Paul Thomas i ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Roedd hi wedi dileu'r neges ddydd Llun ar ôl i Heddlu Gwent fod mewn cysylltiad, yn sgîl cyfarwyddyd gan y barnwr.

Dim sôn am drais domestig

Yn ystod yr achos yn erbyn Anthony Williams, ni chlywodd y llys unrhyw dystiolaeth bod ganddo hanes o drais domestig.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Anthony Williams yn ddieuog o lofruddio ei wraig, Ruth. Roedd o eisoes wedi cyfaddef dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni chlywyd unrhyw dystiolaeth o drais yn y cartref hanesyddol yn ystod achos Anthony Williams, a laddodd ei wraig Ruth yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Mae gan ddiffynnydd hawl i achos teg, a gall unrhyw beth sy'n peryglu hynny arwain at atal yr achos neu ei ganslo'n gyfan gwbl.

Mae'n drosedd i gyhoeddi unrhyw beth a allai beryglu hawl diffynnydd i gael achos teg, ac mae disgwyl i aelodau rheithgor gyrraedd penderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth a gyflwynwyd yn y llys yn unig, gan anwybyddu unrhyw wybodaeth neu sylw o ffynonellau allanol, yn cynnwys gwefannau cymdeithasol.

Cyhoeddwyd y sylw ar Twitter pan oedd y rheithgor yng nghanol eu trafodaethau ac wedi cael eu hanfon adref am y penwythnos.

Pan ddaethant yn ôl i'r llys fore Llun, tynnodd y Barnwr Paul Thomas, eu sylw at y trydariad, gan ddweud: "Daeth i'm sylw dros y penwythnos bod sylwadau hynod o amhriodol wedi cael eu gwneud ar y gwefannau cymdeithasol am yr achos hwn.

"Dylwn ei gwneud hi'n berffaith eglur na chafodd y sylwadau hynny mo'u gwneud gan unrhyw un yn gysylltiedig â'r achos, ac ar ôl gweld cynnwys un darn o'r gwefannau cymdeithasol , mae'n amlwg nad oes ganddynt unrhyw syniad ynglŷn â'r dystiolaeth yn yr achos hwn na'r materion dan sylw yn yr achos hwn."

Nid oedd unrhyw aelod o'r rheithgor wedi gweld y sylwadau ar Twitter, ac aethant yn ôl i bwyso a mesur y dystiolaeth, cyn canfod Mr Williams yn ddieuog o lofruddiaeth brynhawn dydd Llun.

Roedd o eisoes wedi cyfaddef i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll ar y pryd, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad oedd yn briodol iddynt wneud unrhyw sylw ar y mater.

Ym mis Rhagfyr 2020, bu'n rhaid i Ms Jones ymddiheuro am aildrydar sylw oedd yn cymharu rhagfarn yn erbyn y gymuned drawsrywiol efo'r Holocost.

Pynciau cysylltiedig