Y boen a'r rhwystredigaeth o fod yn ferch i alcoholig
- Cyhoeddwyd
Ers ei bod hi'n fach iawn, roedd Nia-Meleri Edwards yn gwybod bod ei thad hi yn wahanol i dadau eraill.
Yn ddirprwy brifathro ac yn athro cerdd, roedd yn eisteddfodwr brwd ac yn arwain a chanu mewn corau. Roedd e'n joio byw ac yn joio'i beint. Ond tu ôl yr hwyl a'r cymdeithasu, roedd 'na ochr arall roedd e'n gwrthod derbyn oedd yn broblem.
Ond i Nia-Meleri a'i theulu, roedd ei ddibyniaeth ar alcohol yn achos tor-calon enfawr.
Yn y pendraw, ei mam wnaeth ei magu hi a'i brawd ar ôl i'r briodas ddod i ben. Tan i'w thad farw o effaith ei or-yfed, bu Nia-Meleri a'i brawd yn ffeindio'u hunain yn ymddiheuro drosto dro ar ôl tro, a theimlo embaras.
'O beint sydyn i dros ben llestri'
Roedd hi'n ymwybodol o'r dechrau bod ei thad yn yfwr trwm a bod hynny yn gysylltiedig â'i salwch meddwl. "Roedd lot o ansefydlogrwydd o ran cael fy rhiantu ganddo fe ers bo' fi'n ifanc iawn," meddai. "Pan o'n i'n mynd drwy fy arddegau o'n i'n ymwybodol bod fy nhad yn yfwr cymdeithasol trwm iawn. Lle bynnag o'n ni'n mynd o'dd peint yn involved - o beint sydyn i dros ben llestri."
Doedd ei thad ddim yn cuddio ei fod yn hoff o'i ddiod. Ond pan oedd Nia-Meleri yn ifanc, collodd e'i drwydded yrru gynifer o weithiau oherwydd ei arferion yfed nes bod blynyddoedd o'i phlentyndod pan nad oedd e'n gallu gyrru.
"O'n i'n gw'bod yn ifanc iawn bo' fe'n gallu bod yn anghyfrifol iawn i or-yfed - ond 'nath hwnna ddim stopo fi rhag mwynhau wrth yfed gyda fy ffrindiau," meddai, wrth gofio'i blynyddoedd fel myfyrwraig ym mhrifysgol Aberystwyth. "Mae jyst yn rhan o dyfu fyny dwi'n meddwl."
Y peth yw, y bobl tu ôl i'r alcoholig yna sy'n dioddef.
Erbyn hyn, dyw Nia-Meleri ddim yn yfed rhyw lawer, "Dyw e jest ddim yn rhan fawr iawn o'n bywydau," meddai.
'Methu mynd heb yr alcohol'
Mae bron i bedair blynedd ers i'w thad farw o fethiant llwyr o'i organau o ganlyniad i ddibyniaeth alcohol, ac mae ei flynyddoedd olaf dal yn llawn atgofion poenus.
"Dim tan fy ugeiniau i y daeth hi'n amlwg bo' fe'n methu mynd heb yr alcohol," meddai. "Os nad oedd e wedi cael diod ers y noson gynt, o'dd 'na arwyddion yn dangos. Roedd ysgwyd yn ei ddwylo neu roedd e'n gollwng pethau. Ro'ch chi'n gallu dweud jyst wrth ei olwg e."
Roedd hi a'i theulu wedi ceisio droeon i gael help iddo. Mae'n cofio i gyfnither i'w thad ei hebrwng i gyfarfod Alcoholics Anonymous, ond iddo sleifio allan ar ôl pum munud, ac esgus ar ôl awr ei fod wedi bod yno drwy gydol yr adeg.
"Dwi'n cofio dweud wrtho fe, os ti'n cario mlaen fyddi di ddim yma mewn pum mlynedd," meddai Nia-Meleri. "On i'n rong achos rwy'n cofio dweud hynny'n glir, a saith mlynedd ar ôl i fi ddweud hynny 'nath e farw.
"O'dd e ddim yn cydnabod bod 'na broblem, sydd yn rhwystredig iawn, iawn"
"Pan 'dach chi'n blentyn i rywun sy'n alcoholig, chi'n teimlo'n gyfrifol am eu ymddygiad nhw," medd Nia-Meleri. "Unrhywbeth embarrasing o'dd e'n 'neud, y pethe roedd e'n neud oedd yn brifo pobl, chi'n teimlo bo' chi'n gorfod ymddiheuro drosto fe, ac roedd hynny'n embarrasing."
Angen mwy o gefnogaeth
Nawr yn 36 oed, mae Nia-Meleri dweud ei bod eisiau siarad am ei phrofiad o fod yn ferch i alcoholig er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr angen am fwy o gymorth i deuluoedd dioddefwyr.
"Rwy'n teimlo mor gryf amdano fe," meddai. "Os chi'n edrych ar alcoholics, rwy'n cytuno'n llwyr bod angen cefnogaeth arnyn nhw. Ond y peth yw, y bobl tu ôl i'r alcoholig yna sy'n dioddef."
Dwi ddim yn meddwl bod alcoholigion yn ddrwg... Salwch yw e."
Pan oedd ei thad ar ei waethaf, fe gafodd driniaeth ysbyty, cefnogaeth i'w iechyd meddwl a gweithiwr cymdeithasol. Ond roedd Nia-Meleri'n teimlo nad oedd unrhyw gymorth iddi hi na'i brawd,
"Oedd rhywun yn ein helpu ni fel teulu? Nagoedd! Mae'n gyfrifoldeb - roedd gymaint o e-byst o'n i'n gorfod anfon, gymaint o alwadau ffon a chyfathrebu gyda gwahanol ofalwyr a phersonél meddygol. Mae'r claf yn cael cymaint o gefnogaeth, ond beth am y teulu sy'n gorfod neud y gwaith i gyd, a gofalu amdanyn nhw, clirio'r "mess" a gofalu am eu hunain hefyd?"
I Nia-Meleri, mae 'na anghyfartaledd mawr rhwng y cymorth sydd ar gael i alcoholigion o'i gymharu â'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd o'u cwmpas nhw. Erbyn hyn, mae wedi dod ar draws y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael gan elusen NACOA sy'n helpu teuluoedd alcoholigion o'r crud i'r bedd. "O'n i ddim yn gwbod am NACOA tan oedd ei bron yn rhy hwyr mewn ffordd," meddai.
Yn fam ei hun erbyn hyn, mae hi'n ymwybodol iawn mor wahanol yw eu magwraeth ei phlant hi.
Mae'n gobeithio bod unrhyw blentyn sydd mewn sefyllfa debyg iddi hi yn cael gwybod bod 'na gymorth ar gael iddyn nhw. Ond mae'n poeni nad oes digon o gyllid i elusennau sy'n helpu teuluoedd alcoholigion. Yn rhedwraig frwd, mae hi wedi rhedeg rasys hir sawl tro i godi arian. Gyda'r NSPCC yn dweud bod cynnydd o 72% wedi bod yn nifer y rhieni sydd wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu ac asiantaethau dros y 10 mis diwethaf, mae'n dweud bod y neges yn bwysicach nag erioed.
"Dwi ddim yn meddwl bod alcoholigion yn ddrwg," medd Nia-Meleri. "Salwch yw e, ond mae 'na ddathliad pan ma' alcoholig yn gwella, pan ma' rhywun yn dweud rhywbeth fel, 'dwi ddim 'di yfed ers mis neu blwyddyn.' Mis Medi nesa bydd pedair mlynedd ers i nhad i farw, a fydda i methu dweud, dwi pedair mlynedd yn rhydd o ddelio ag alcoholig. Dwi methu 'neud hynna.
"Mae lot o'r gwaith caled emosiynol ac ymarferol yn cael ei 'neud gan y bobl sy'n cefnogi'r alcoholig. Nid jyst plant, ond gŵr, gwraig, partner, rhiant hefyd. Lle mae'r gefnogaeth arbenigol i'r bobl yna?"
"Os chi'n 'nabod ffrind neu aelod o'r teulu sydd yn alcoholig, drychwch am y person sy tu ôl iddyn nhw sy'n dioddef lot mwy na nhw."
NACOA (Gwefan allanol), dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: