Cau ffyrdd a rheilffyrdd yn sgil llifogydd a glaw trwm
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion am lifogydd mewn grym ar draws Cymru yn sgil rhybudd oren am law trwm ddydd Sadwrn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, disgynnodd gwerth mis o law mewn rhai ardaloedd o dde Cymru.
Mae'r glaw wedi achosi rhai rheilffyrdd a ffyrdd i gau ar draws Cymru, yn cynnwys y B4459 yng Nghapel Dewi, Ceredigion, o ganlyniad i dirlithriad, yn ôl Cyngor Ceredigion.
Cafodd nifer o dai ar Teifi Terrace yng Nghastell Newydd Emlyn eu gwagio o ganlyniad i risg o lifogydd, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Daeth rhybudd melyn am law i rym ar gyfer y mwyafrif o Gymru am 09:00 fore Gwener ac mae'n para tan 02:00 fore Sul.
Roedd rhybudd oren, mwy difrifol, mewn grym ar gyfer rhannau mawr o'r de a'r canolbarth o 20:00 nos Wener nes 16:00 ddydd Sadwrn.
Achosodd llifogydd lleol ffyrdd ym Mhowys i gau, yn cynnwys yr A483 rhwng Groe Street, Llanfair-ym-muallt a'r A481 yn Llanelwedd, yn ogystal â'r A4077 Pont Crughywel a'r A40 Ffordd Brycheiniog.
Yn Sir Gaerfyrddin mae'r A4242 yng Nghaerfyrddin, a'r A4069 yn Llanymddyfri a Llangadog wedi cau, ac yng Ngheredigion mae Church Street yn Llandysul wedi cau ger y clwb criced.
Caewyd yr A4061 o Stad Ddiwydiannol Hirwaun i'r A465 ger cylchfan y Rhigos, Rhondda Cynon Taf hefyd, yn ogystal â'r A4042 Pont Llanelen yn Sir Fynwy.
Mae nifer o reilffyrdd wedi'u heffeithio gan y glaw trwm, yn cynnwys y rheilffyrdd rhwng Henffordd a Chasnewydd, Abercynon ac Aberdâr, Ynyswen a Merthyr Tudful, a Parcffordd Glyn Ebwy a Glyn Ebwy.
Dwywaith cymaint
Dywedodd uwch swyddog gyda'r Swyddfa Dywydd, Marco Petagna, y gallai ardaloedd o fewn y rhybudd oren weld 200mm o law, sydd ddwywaith y cyfartaledd ar gyfer Chwefror.
Erbyn nos Wener roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi un rhybudd llifogydd, a 30 rhybudd i baratoi am lifogydd ar draws Cymru. Maen nhw'n gofyn i bobl gadw golwg ar y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd, dolen allanol, sy'n cael eu diweddaru bob 15 munud.
Mae rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn berthnasol i nifer o afonydd, yn bennaf yn ne a chanolbarth Cymru, yn cynnwys yr Afon Wysg yng Nghrughywel ac Aberhonddu.
Mae yna rybuddion hefyd mewn grym ar gyfer yr Afon Gwy ger Llanfair-ym-muallt, yr Afon Cynon ger Aberpennar ac Abercynon, ac ar yr Afon Llwchwr yn Rhydaman a Llandybie.
Mae'r Afon Tywi yng Nghei Caerfyrddin, a rhwng Llandeilo ac Abergwili, yn ogystal ag ar hyd yr Afon Teifi yng Nghastell Newydd Emlyn, Cenarth, Llechryd a Llandysul hefyd mewn peryg o orlifo.
Ar un adeg roedd 27 rhybudd mewn grym am lifogydd ar draws Cymru ddydd Sadwrn.
Roedd y rhybudd oren yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
Abertawe
Blaenau Gwent
Caerffili
Caerfyrddin
Castell-nedd Port Talbot
Ceredigion
Merthyr Tudful
Mynwy
Pen-y-bont
Penfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Torfaen
Ynys Môn a Sir y Fflint yw'r unig ardaloedd sydd ddim wedi eu heffeithio gan y rhybudd melyn.
Mae'r ffyrdd canlynol wedi'u heffeithio gan y llifogydd:
A4077 Pont Crughywel ym Mhowys
A4061 Ffordd y Rhigos yn Rhondda Cynon Taf
A4042 Pont Llanelen yn Sir Fynwy
Church Street yn Llandysul ar gau ger y clwb criced
Dywedodd y rheolwr tactegol, Gary White: "Gall dŵr llifogydd fod yn beryglus dros ben, ac rwy'n annog pobl i beidio â cheisio cerdded neu yrru drwyddo, oni bai bod y gwasanaethau brys yn cyfarwyddo hynny."
Ychwanegodd Mr Petagna y byddai mwy o dywydd gwlyb yr wythnos nesaf hefyd.
Dywedodd: "Fe fydd rhywfaint o hoe ddydd Sul a dydd Llun, ond yna dydd Mawrth mae disgwyl mwy o law."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020