Cynllun i droi mynyddoedd yn 'sbwng' i atal llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect sy'n gobeithio atal dŵr llifogydd rhag gadael rhannau uchaf Dyffryn Conwy am wneud cais am arian i barhau â'r gwaith.
Nod Prosiect Dalgylch Conwy Uchaf yw arafu llif y dŵr o ardaloedd yr ucheldir, a helpu lleihau faint o ddŵr llifogydd sy'n effeithio ar drefi fel Llanrwst yn is i lawr y dyffryn.
Dyma'r tro cyntaf yng Nghymru i unrhyw un geisio rheoli llifogydd trwy edrych ar y broblem ar draws dalgylch afon gyfan.
Cafodd tref Llanrwst ei tharo gan lifogydd ddwy flynedd yn ôl, gyda lefel Afon Conwy ar ei uchaf ar gofnod, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru ar y pryd.
Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir lleol, gyda'r nod hefyd o wella cynefinoedd bywyd gwyllt.
Hyd yn hyn, mae'n golygu atal ffosydd draenio mewn ardaloedd o orgorsydd (blanket bogs) i wneud y gors yn wlypach a dal mwy o ddŵr am fwy o amser.
Mae coed wedi cael eu plannu ar lannau afonydd i atal dŵr wyneb rhag rhedeg i mewn i afonydd mor gyflym.
Mae graean a chlogfeini hefyd wedi'u rhoi yn ôl i welyau'r afon i wneud i'r dŵr lifo'n arafach.
Nawr mae cais am £800,000 arall o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei lunio i barhau â'r gwaith.
'Sbwng - nid to llechi'
Dywedodd Euros Jones, rheolwr gweithrediadau gogledd-orllewin Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: "Yn y gorffennol, arferai'r mynyddoedd weithredu fel sbwng yn amsugno'r dŵr ac yn cynnal bywyd gwyllt.
"'Da ni isio gweithio efo pherchnogion tir i adfer y system honno, felly gall y mynyddoedd weithio fel sbwng yn hytrach nag fel to llechi.
"'Da ni am arafu'r dŵr cyn iddo fynd i'r dyffrynnoedd isaf, lle gall achosi problemau efo llifogydd.
"Yn amlwg mae angen gwneud yr amddiffynfeydd anoddach i lawr yno, ond mae unrhyw beth y gallwn ei wneud yn y mynyddoedd i arafu'r llif hwnnw yn beth da.
"Ond mae angen ei wneud ar raddfa - gorau po fwyaf o leoedd. Dyna pam rydyn ni'n gweithredu ar draws dalgylch cyfan Afon Conwy.
"Ni fydd yn delio â'r broblem llifogydd gyfan, ond gobeithio y gall ostwng lefelau'r dŵr yn ddigon i ychwanegu rhywfaint o wytnwch i'n hamddiffynfeydd."
Mae dalgylch Conwy yn cwmpasu 574 cilomedr sgwâr - ardal maint Ynys Manaw.
Dechreuodd y prosiect fel cynllun ar raddfa lai i rwystro ffosydd draenio mewn ardal o rostir ger Betws-y-coed o'r enw'r Migneint.
Mae dros 30,000 o argaeau bach wedi'u hadeiladu sy'n golygu bod y gorgorsydd wedi gwlychu ac yn dal mwy o ddŵr.
Dywed swyddogion fod llwyddiant y gwaith hwnnw wedi eu harwain i ehangu'r prosiect i gynnwys rheoli afonydd ac i gwmpasu'r ardal gyfan y mae dŵr yn llifo i Afon Conwy.
'Yr afon bron fel camlas'
Dywedodd Dewi Davies o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - rheolwr y prosiect: "Yn y gorffennol, roedd tueddiad i geisio gwella'r dirwedd, ceisio draenio ardaloedd gwlyb a defnyddio afonydd i gario'r dŵr i ffwrdd cyn gynted â phosib.
"Yng Nghwm Penmachno, mae rhywfaint o waith wedi'i wneud eisoes i arafu llif Afon Machno cyn iddi fynd i mewn i'r Conwy.
"Cyn i ni ddechrau gweithio yma, roedd yr afon bron fel camlas - roedd y glannau a'r gwely bron yn sgwâr ac roedd wedi'i garthu i'r pwynt lle mai'r cyfan a wnaeth oedd symud y dŵr i lawr yr afon.
"Nawr mae'n llifo'n arafach. Mae'n dechrau ystumio. Mae'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni yma ar raddfa fach, ond mae'n dangos yr hyn allwn ni ei wneud ar draws y dalgylch.
"Nid lleihau lefelau dŵr llifogydd ydy'r unig fudd. 'Da chi'n sylwi mwy ar y pysgod, yn gwibio rhwng y clogfeini 'da ni'n eu rhoi yn ôl yn y sianel. Mae mwy o bysgod yn helpu bywyd gwyllt arall fel dyfrgwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019