Gobaith y bydd afancod yn dod i Gymru yn fuan
- Cyhoeddwyd

Gallai'r afancod trwyddedig cyntaf gyrraedd Cymru o'r Alban o fewn wythnosau.
Mae afancod wedi diflannu o Gymru ers y Canol Oesoedd ac wedi diflannu o weddill Prydain ers yr ail-ganrif-ar-bymtheg.
Mae Prosiect Afanc Cymru yn gobeithio y byddan nhw'n cael trwydded i gadw hyd at chwech afanc mewn lle caeedig.
Byddai'r anifeiliaid yn cartrefu yng Ngwarchodfa Natur Cors Ddyfi ac yn cael eu defnyddio i symud coed helyg.
Y syniad ydy y byddan nhw'n helpu i adfer y safle tri hectar yn gors - sef yr hyn yr oedd yn wreiddiol.
Dywedodd Alicia Leow-Dyke, o Brosiect Afanc Cymru bod yr afancod yn torri'r coed yn y bôn ac yn bwyta rhisgl coed helyg a choed eraill.
"Bydd cwympo'r coed yn agor y safle ac yn golygu ei bod yn haws i'w drin yn y dyfodol," meddai.
"Hefyd bydd llysdyfiant corsdirol yn ymddangos fel myrtwydd a chyrs - planhigion sy'n hoff o dir gwlyb."

Does dim afancod wedi bod yng Nghymru ers y Canol Oesoedd
Ychwanegodd Ms Leow-Dyke ei bod wedi bod yn anodd clirio'r tir gan bod gweddillion coed conwydd yn parhau yno a'r gobaith yw y bydd yr afancod yn magu ac yn ffurfio grŵp a fydd yn rheoli'r cynefin dros gyfnod o bum mlynedd.
"Os y byddan nhw'n rheoli'r safle yn dda ein bwriad yw ymestyn y darn o dir lle maen nhw'n cael bod ynddo," meddai Ms Dyke.
Does gan yr afancod ddim enwau hyd yma ond fe fyddan nhw'n cael microsglodyn a thag yn eu clustiau.
Dywed y naturiaethwr Iolo Williams y bydd hi'n "wych" eu cael yn dychwelyd i Gymru ac y bydd bioamrywiaeth yr ardal yn cynyddu'n ddirfawr.
"Bydd yn wych ar gyfer amffibiaid, planhigion dŵr, infertebratau a physgod," meddai.

Y bwriad yw y bydd yr afancod yn llwyddo i adfery tir i'r hyn oedd e'n wreiddiol, medd Alicia Leow-Dyke
Fe gafodd afancod eu hailgyflwyno i'r Alban yn 2009 ac mae nhw bellach yn cael eu gwarchod.
Yn 2008 cafodd pâr o afancod eu cyflwyno i dir caeedig Blaeneinion, prosiect amgylcheddol ger Machynlleth - ond yr adeg honno doedd dim angen trwydded.
Maent yn cael eu canmol am newid y tirlun ac atal llifogydd.
Yn ôl yr Athro Ian Cowx sy'n arbenigo ar wyddoniaeth pysgodfeydd ym Mhrifysgol Hull, gall afancod amharu ar fudo a recriwtio pysgod, niweidio cynnyrch amaethyddol a difrodi llechweddi ac adeiladwaith arall.
Dywed Mark Owen, un o benaethiaid yr Ymddiriedolaeth Bysgota fod yna bryderon am effaith yr afancod ar eog.
"Does dim pwynt rhyddhau un rhywogaeth a difa'r llall," meddai.
Dywed cadeirydd bwrdd materion gwledig Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Hedd Pugh, ei fod e'n ofni y bydd yr anifeiliaid yn dianc.
"Mae'n swnio'n hyfryd ond dyw hi ddim yn bosib cadw anifeiliaid gwyllt mewn lle caeedig," meddai.
"Ry'n yn cael ein hannog i blannu coed ond yr hyn mae afancod yn ei wneud yw eu torri a chreu argae. Gallai hynny achosi llifogydd ar ffermdiroedd.
Dywedodd hefyd ei fod yn poeni na fydd ffermwyr yn gallu gweithredu os ydynt yn creu problemau am eu bod yn warchodedig.

Mae'r naturiaethwr Iolo Williams o blaid cael yr afancod yn ôl yng Nghymru
Dywed Gareth Wyn Jones sy'n ffermio ar lan Afon Dyfi ger Llanwrin ei fod yn poeni y bydd yr afancod yn amharu ar ecoleg yr ardal.
"Bydd hi'n bwysig cadw golwg arnynt er mwyn cael ryw syniad a ydynt yn cael unrhyw effaith amgylcheddol.
"Mae'n ddyletswydd arnom i ofalu am yr amgylchedd a'r anifail," meddai.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod cais Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Trefaldwyn i ryddhau yr afancod yn mynd yn ei flaen.
Mae yna gais hefyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Frycheiniog i ryddhau deg pâr o afancod i Afon Ddyfi fel rhan o astudiaeth beilot.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017