Camddealltwriaeth yn parhau am ddeddf taro plant
- Cyhoeddwyd
Mae yna rywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â deddfwriaeth taro plant yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyfraith sy'n gwahardd pobl rhag taro plant yng Nghymru yn dod i rym yn 2022. Cymru yw ail genedl y DU i wneud hyn.
Mewn arolwg yn cynnwys 1,002 o bobl, dywedodd 23% eu bod yn ymwybodol o newidiadau, ac roedd 26% yn ymwybodol ond yn ansicr ynghylch y manylion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd 'na hysbysebion teledu, radio ac ar-lein cyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Arolwg Omnibws diweddaraf Beaufort Cymru, yn Nhachwedd 2019, roedd canran uwch o bobl o blaid cael gwared â'r amddiffyniad cosb resymol o gymharu â'r rheiny a gafodd eu holi yn Nhachwedd 2018.
Yn 2019, cafodd yr atebwyr eu holi am y raddfa roeddent yn cytuno neu'n anghytuno ei fod weithiau'n angenrheidiol i daro plentyn.
Roedd mwy yn anghytuno gyda'r datganiad (55%) nag oedd yn cytuno (31%). Roedd y gwahaniaeth rhwng y nifer a oedd yn anghytuno ac yn cytuno gyda'r datganiad yn fwy nag yn arolwg 2018 pan anghytunodd 49% a chytunodd 35%.
Roedd y bobl a oedd yn edrych ar ôl plant hyd at saith oed (179 o'r 1,002 o ofynnwyd) yn fwy tebygol o anghytuno ei fod yn angenrheidiol weithiau i daro plentyn - 70% - o gymharu â 53% ymhlith y rheiny a oedd ddim yn edrych ar ôl plant o'r un oedran.
Yn 2018, pan ofynnwyd a oedden nhw'n ymwybodol o'r newidiadau awgrymedig i'r ddeddfwriaeth, dywedodd 17% eu bod. Yn 2019 cynyddodd hynny i 23%.
Yn yr arolwg blaenorol dywedodd 64% nad oedden nhw'n ymwybodol ac aeth hynny lawr i 50% yn yr arolwg fwyaf ddiweddar.
Yn 2018, dywedodd 17% nad oedden nhw'n ymwybodol o'r manylion. Cynyddodd hyn i 26% yn 2019.
Polisi sydd wedi'i adeiladu 'ar ddrwgdybiaeth'
Mae Dr Ashley Frawley, uwch-ddarlithydd polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, yn ymgyrchydd blaenllaw dros yr ymgyrch Byddwch yn Rhesymol, sy'n ceisio atal unrhyw waharddiad a pharhau i ganiatáu dewis i rieni.
Dywedodd ei bod yn cael ei thargedu ar Twitter oherwydd ei safbwynt, a bod y pwnc wedi cael ei ystumio.
"Mae ymgyrchwyr wedi llwyddo i droi hwn yn ddadl am sut ddylai pobl fagu eu plant," meddai. "Nid dyna yw'r ddadl yma, mae ynghylch a ddylai math arbennig o fagu plant fod yn anghyfreithlon.
"Dydy e ddim ynghylch a ddylai pobl daro, mae ynghylch a ddylech chi gael eich cyhuddo a'ch cofnodi fel person sy'n cam-drin plant os rydych chi'n taro."
Ychwanegodd: "Mae'r polisi cyfan wedi'i adeiladu ar sail drwgdybiaeth - chi methu ymddiried mewn pobl i reoli'u hunan. Ni allwch chi berswadio pobl i fabwysiadu'r dull magu plant yma yn ddemocrataidd - dyna pam maen nhw'n edrych i'r gyfraith yn y tro cyntaf."
Mewn ymateb i ganlyniadau'r arolwg diweddaraf, dywedodd: "Mae'r gwahaniaethau rhwng y ddau arolwg yn fach iawn...
"Bysech chi'n meddwl gallech gynhyrchu newidiadau mwy trawiadol gyda sampl o ba mor fach...
"Bydd cefnogwyr yn debygol o eisiau pwysleisio bod gofalwyr plant dan saith oed yn ymddangos i fod o blaid y gwaharddiad. Tybed faint fydd yn dweud mai dim ond 179 o bobl cafodd eu harolygu i gael y canlyniad?"
Datblygiad 'positif'
Croesawodd Vivienne Laing, rheolwr polisi a materion cyhoeddus NSPCC Cymru'r canlyniadau.
"Mae'n gam positif bod symudiad pellach wedi bod o ran agweddau cyhoeddus cyn y newid pwysig yma i'r gyfraith, sy'n blaenoriaethu diogelwch plant," meddai.
"Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi'r un amddiffyniad cyfreithiol i blant ag oedolion ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gweithrediad llwyddiannus."
Dywedodd fod newid mewn agweddau cyhoeddus fel arfer yn dilyn newid deddfwriaethol.
"Rydyn ni wedi gweld hyn gyda chyhoeddiad y gwaharddiad ar ysmygu a gwneud gwisgo gwregys diogelwch mewn car yn angenrheidiol. Mae'n galonogol i weld bod y newid yn barod yn digwydd."
Ychwanegodd ei bod yn hyderus y byddai ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn arwain at ostyngiad pellach yn y defnydd o gosb gorfforol ar blant.
Mae'r elusen yn annog rhieni i gymeradwyo'r pethau da mae plant yn gwneud, gosod terfynau clir a chyson ac aros yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd anodd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth i hysbysu'r cyhoedd o'r newid i'r gyfraith yn mynd yn fyw yn ddiweddarach eleni - gan gynnwys hysbysebion teledu, radio ac ar-lein.
"Rydym hefyd yn sicrhau fod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a phlant yn gwybod am y newid i'r gyfraith ac rydym wedi sefydlu grŵp arbenigol i orwchwylio'r gwaith pwysig hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020