Llofruddiaeth Wrecsam: Dyn yn pledio'n ddieuog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed o Wrecsam wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio dyn 60 oed yn y dref y llynedd.
Cafwyd hyd i Terrence Edwards, oedd yn cael ei alw'n Terry, yn farw yn ei gartref ar stad Parc Caia ar 1 Mehefin 2020.
Honnir bod Barry Bagnall wedi ei lofruddio rhwng 28 a 31 Mai.
Mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug, fe bleidiodd yn ddieuog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae hefyd yn gwadu ceisio perswadio dynes i roi tystiolaeth ffug sy'n gysylltiedig â ffôn symudol.
Cafodd ei ddychwelyd i'r ddalfa wedi'r gwrandawiad a barodd am 20 munud, ac mae disgwyl i'r achos llawn ddechrau ar 1 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2020