Gyrrwr oedrannus yn marw mewn gwrthdrawiad ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr oedrannus wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Ngorseinon, ger Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11:15 ddydd Mawrth i Ffordd Abertawe ger safle gwerthu ceir CEM Day.
Cafodd gyrrwr Honda Jazz lliw arian - dyn lleol 84 oed - ei gludo gydag anafiadau difrifol i Ysbyty Treforys, ble bu farw er gwaethaf ymdrechion staff yn yr ysbyty, ac yn y fan ble ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd gyrrwr 39 oed Jaguar XF du hefyd ei gludo i'r ysbyty ond nid oes lle i gredu bod ei anafiadau yntau'n rhai difrifol.
Mae Heddlu De Cymru wedi rhoi gwybod i deulu'r gyrrwr ac yn darparu cefnogaeth arbenigol iddyn nhw.
Bu'n rhaid cau'r ffordd er mwyn ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, ond roedd disgwyl iddi ailagor yn gynnar nos Fawrth.
Mae Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol y llu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd, neu a welodd y naill gerbyd neu'r llall yn y munudau cyn y gwrthdrawiad.
Maen nhw yn arbennig eisiau clywed gan ddau ddyn mewn car Ford Focus du oedd wedi parcio ar y pryd ger safle'r gwrthdrawiad. Credir bod y dynion yn edrych ar gerbydau ar werth, a'u bod o bosib mewn sefyllfa i helpu'r ymchwiliad.
Hefyd mae 'na apêl am luniau o'r ardal, boed o ffôn, dash-cam neu CCTV.