Pob oedolyn i gael cynnig brechiad erbyn 31 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PigiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd yn dweud y bydd pob oedolyn yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn rhag Covid-19 erbyn 31 Gorffennaf, "cyn belled â bo'r cyflenwad yn cyfateb ag ein uchelgais".

Cyhoeddodd Vaughan Gething gynlluniau i gynnal mwy o brofion yn y gweithlu ac yn y gymuned, a fydd yn cynnwys frechu dros 250,000 o weithwyr ar draws Cymru.

Bydd profion cymunedol yn dechrau wythnos nesaf mewn tair sir sydd wedi gweld rhai o'r cyfraddau achosion a marwolaethau uchaf yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi canllawiau mewn cysylltiad â brechu gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl difrifol.

Gweithleodd risg uchel

Dan y trefniadau newydd, bydd profion rheolaidd yn cael eu cynnal, gyda chanlyniadau o fewn hanner awr, o fewn cyrff cyhoeddus a phreifat sy'n cyflogi mwy na 50 o bobl.

Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i weithleoedd ble mae risg uwch o ddal y feirws, pobl sy'n gweithio'n agos at bobl eraill, a gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau allweddol.

O wythnos nesaf ymlaen bydd profi cymunedol yn dechrau mewn ardaloedd penodol yn siroedd Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher

Bydd profi pobl yn aml yn y gweithle yn cyflymu'r broses o ganfod pobl sydd heb symptomau er eu bod wedi'u heintio, medd Mr Gething, a chysylltu'n gynt ag unrhyw un fu mewn cysylltiad â nhw.

"Mae profion rheolaidd ar gyfer ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol eisoes wedi dechrau," meddai. "Rydym nawr yn ymestyn hyn i brofi staff mewn lleoliadau gofal plant, ysgolion a cholegau addysg uwch."

Dywedodd Mr Gething hefyd yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru bod y brechlyn bellach yn cael ei roi i bobl yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 i 9, sef:

  • Pobl rhwng 50 a 69 oed

  • Pobl dros 16 oed gyda chyflwr iechyd sylfaenol sy'n cynyddu'r risg iddyn nhw o gael salwch difrifol petaen nhw'n dal coronafeirws

  • Gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am berson sy'n fregus yn glinigol.

"Yn ddibynnol ar gyflenwad y brechlyn, byddwn wedi cyrraedd yr holl bobl hyn erbyn canol Ebrill," meddai Mr Gething.

Canolfan frechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Gan gyfeirio at y canllawiau newydd o ran brechu gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau dysgu neu salwch meddwl difrifol, dywedodd Mr Gething bod hwn yn "grŵp mawr" o bobl "ac fe allai gymryd peth amser i GIG Cymru gynnig apwyntiad i bawb".

Dywedodd ei fod am roi "sicrwydd bod ein GIG yn gweithio cyn gyflymed â phosib a bydd neb yn cael ei adael ar ôl".

Mae disgwyl rhagor o arweiniad, meddai, yn y dyddiau nesaf gan y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) ynghylch blaenoriaethu brechiadau i bobl dan 50 oed.

Mae cyngor diweddaraf y JCVI'n awgrymu blaenoriaethu pobl ag anableddau dysgu o fewn grŵp 6 .

Dywedodd Mr Gething y byddai'n dilyn cyngor sy'n awgrymu defnyddio cofrestrau meddygol teulu i nabod pobl a fyddai'n gymwys. Bydd yn gweithio gyda meddygfeydd i sicrhau bod eu "cofrestrau yn cynnwys yr holl bobl fyddwn yn dymuno eu cynnwys".

Croeso gofalus y gwrthbleidiau

Mewn ymateb i'r cyhoeddiadau dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns MS eu bod yn croesawu'r addewid i gynnig brechiad cyntaf i bob oedolyn yng Nghymru fisoedd yn gynt na'r nod gwreiddiol.

Ychwanegodd bod "angen i'r Blaid Lafur wireddu ei pholisi ar gyflymder - gan ddilyn cyngor newydd y JCVI - o ran blaenoriaethu cynnig brechiadau i bobl ag anableddau dysgu sydd wedi dioddef cyfraddau marwolaeth Covid enfawr o anghymesur."

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd yr AS Delyth Jewell wrth BBC Cymru: "Mae hwn yn ddiwrnod cyffrous i'r holl ymgyrchwyr sydd wedi brwydro mor galed dros y newid polisi hwn.

"Os edrychwn ni ar nifer y preswylwyr cartrefi gofal gydag anableddau dysgu, ry'n ni'n sôn am, falle 3,500 o bobl - oddeutu 10% o'r brechiadau mewn diwrnod yng Nghymru."

Ond fe gwestiynodd "pam na ellir fod wedi rhoi'r sicrwydd yma i deuluoedd bythefnos yn ôl".

Linebreak

Dadansoddiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Mae ymdrech frechu gyflym yn allweddol er mwyn cynnig llwybr yn ôl i rywfaint o normalrwydd. Hyd yma mae bron 880,000 o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf - mwy nag un ym mhob tri oedolyn.

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y bydd pawb sy'n gymwys am frechiad Covid yn cael cynnig dos cyntaf erbyn diwedd Gorffennaf, gan adlewyrchu ymrwymiadau sydd eisoes wedi eu gwneud yn Lloegr a'r Alban.

Ac yn dilyn ymgyrch frwd, daeth cadarnhad hefyd y bydd rhagor o unigolion sydd ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys yng ngrwpiau blaenoriaeth sydd ar hyn o bryd yn derbyn brechiad.

Ond ynghyd â'r ymdrech frechu fe fydd y gallu i ddarganfod clystyrau Covid newydd yn gyflym yn allweddol wrth lacio cyfyngiadau.

O'r wythnos nesaf fe fydd profion cyflym yn cael eu cynnig mewn rhai ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful er mwyn ceisio dod o hyd i bobl sydd â'r coronafeirws ond heb symptomau.

Mae pob un brechiad sy'n cael ei roi, ynghyd â'r ffaith fod cyfraddau'r feirws bellach yn is nag ar unrhyw adeg ers mis Medi, yn cynnig gobaith.

Ond fe fydd angen sawl ymateb yn yr ymdrech i daclo feirws sydd wedi llwyddo i synnu cymaint yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.