A fydd y sîn LHDT+ yn goroesi'r pandemig?

  • Cyhoeddwyd
Connie Orff
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alun Saunders, sy'n perfformio fel Connie Orff, ei fod wedi cael profiadau "negyddol a bygythiol" yn y ddwy flynedd ddiwethaf

Gyda nifer o fusnesau yn cau oherwydd y coronafeirws, a nifer y canolfannau ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn gostwng yn barod, beth yw'r dyfodol i'r sîn?

Bethan Jones-Arthur sy'n trafod a fydd y sîn yng Nghaerdydd yn gallu parhau wedi'r pandemig a pha mor bwysig yw llefydd saff i gymdeithasu i'r gymuned LHDT+.

Yn y gyfres It's a Sin gan Russell T Davies, gwelwn grwpiau o bobl LHDT+ yn mwynhau noson mewn bar ar gyfer unigolion sydd yn debyg iddyn nhw. Yn yr 80au roedd llefydd fel hyn a chlybiau tywyll y cyfnod yn ofod saff i bobl gwrdd â ffrindiau a chariadon, i deimlo'n ddiogel ac fel rhan o gymuned.

Nawr, yn Nghymru'r 2020au, mae pobl LHDT+ yn gallu teimlo'n saffach mewn gofodau 'cyffredin', ond mae bariau a chlybiau ar gyfer pobl LHDT+ yn benodol dal yn hanfodol.

"Mae'r gymuned LHDT+ yn dal i fod yn un lleiafrifol, ac ry'n ni'n dal i ddioddef trais, erledigaeth ac anffafriaeth yn ein herbyn ni - mae hynny'n ffaith," meddai Alun Saunders, sy'n ddramodydd ac actor yn ogystal â chreawdwr y perfformiwr drag, Connie Orff.

Alun Saunders
BBC
...oherwydd nad y'n ni'n byw mewn cymdeithas gyfartal (o bellffordd) mae dal angen llefydd sy'n ddiogel i ni, llefydd ble ry'n ni'n medru mynegi'n hunain yn hollol rhydd...
Alun Saunders

"Gan fod hyn yn dal i fod yn wir, ac oherwydd nad y'n ni'n byw mewn cymdeithas gyfartal (o bellffordd) mae dal angen llefydd sy'n ddiogel i ni, llefydd ble ry'n ni'n medru mynegi'n hunain yn hollol rhydd, heb ein herlid neu ein herio gan bobl y tu fas i'n cymuned ni, na chwaith poeni am hyn yn ein gofodau diogel, sef barau a chlybiau sydd yna'n spesiffig i'n cymuned ni.

"Dros y blynyddoedd d'wetha' ry'n ni wedi gweld mwy o 'integreiddio' a llawer o rheiny o'r tu fas i'n cymuned yn rhannu'n gofodau saff. A basai nifer yn anghytuno gyda fi, ond oni ddylsen ni ddechrau teimlo'n ddiogel ym mhob gofod/bar/clwb cyn i ni golli'n gofodau diogel?

"Yn drist iawn, yn ogystal â'r blynyddoedd o deimlo'n ddiogel yn ein bariau ni, dwi wedi cael sawl profiad negyddol a bygythiol yn y ddwy flynedd d'wethaf - bob tro gan bobl o'r tu allan i'r gymuned yn dod i mewn ac yn fy nhrin fel rhyw fath o exhibit mewn galeri neu siop, rhywbeth iddyn nhw edrych arno a'i gyffwrdd fel hoffen nhw. It's not on.

"Yn fy marn i, nes bo' fi'n teimlo'n ddiogel i fynd i unrhyw dafarn yn y dre a rhoi cusan neu ddal llaw fy ngŵr heb ofni sylwad neu fygythiad am y peth, mae angen i ni fod yn warchodol iawn o'n gofodau LHDT+."

Arwain at golli gwaith

Ond beth os ydyn ni'n colli'r gofodau allweddol yma i argyfwng byd-eang? Dydy'r bariau yma ddim yn unig ar gyfer y gymuned i fwynhau noson allan, maen nhw hefyd yn angenrheidiol ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sîn.

Mae'n wir ein bod ni'n gweld llawer mwy o gynrychiolaeth LHDT+ ar y sgrîn yn ddiweddar, yn enwedig ar raglenni fel RuPaul's Drag Race a ffilmiau fel Happiest Season. Ond mae cynifer o berfformwyr LHDT+ lleol wedi ein hadlonni trwy'r pandemig trwy sioeau ar-lein, a digwyddiadau fel bingo ac ymarfer corff gan artistiaid drag sydd wedi ein cadw ni'n brysur yn wythnosol.

Beth fydd yn digwydd i'r perfformwyr hyn os yw'r lleoliadau yma yn diflannu?

Ffynhonnell y llun, Nathan Wyburn
Disgrifiad o’r llun,

Wyburn a Wayne yw Wayne Courtney a Nathan Wyburn sy'n cyflwyno ar Radio Cardiff a chynnal digwyddiadau yn y ddinas

Mae Wyburn a Wayne yn cynnal a threfnu llawer o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys nosweithiau yn y Golden Cross, a'r digwyddiad Dragged To Church.

"Pe bai'r bariau a'r clybiau'n cau, yna bydd gwaith llawer o berfformwyr yn cael ei dorri'n sylweddol. Nid yw'r galw am berfformwyr drag, er enghraifft, mor fawr mewn lleoliadau 'cyffredin'.

"I lawer o berfformwyr, fe fyddan nhw'n colli oes o waith caled yn datblygu eu act neu sioe yn ogystal â'r rhwydwaith sy'n eu galluogi nhw i weithio mewn mannau eraill yn y DU."

'Rhan bwysig o'n hanes'

Mae Lowri, menyw cwiar o Gastell-nedd, yn poeni am golli arwyddocâd hanesyddol bariau a chlybiau LHDT+ y ddinas.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

"Pan oeddwn i'n ferch ifanc cwiar, galluogodd bariau LHDT+ i fi deimlo'n llai unig. Cynigon nhw le i fi gwrdd â phobl fel fi.

"Er hoffwn i weld mwy o leoedd LHDT+ sydd ddim yn dibynnu ar yfed alcohol, mae bariau LHDT+ yn rhan o'n hanes ni. Yn fannau lle cychwynnwyd chwyldro, cymunedau, a theuluoedd.

"Yng Nghaerdydd, roedd bariau LHDT+ mewn perygl o gau cyn pandemig y coronafeirws, a chredaf fod angen gwneud rhywbeth i'w hamddiffyn fel canolfannau cymunedol a lleoedd o arwyddocâd hanesyddol. All codi arian ar-lein ddim cyflawni digon."

Dyletswydd ar y gymdeithas gyfan

Felly oes rôl gan gymdeithas gyfan i chwarae mewn achub ein cymunedau LHDT+?

Meddai Alun Saunders: "Mae perfformwyr drag y wlad hon wedi newid y byd, wedi rhoi o'u hamser i godi arian dros HIV ac AIDS, dros lifogydd, dros eglwysi a phob mathau o achosion da - y'n ni wastod yn barod i gamu fyny a gweithredu er y gorau...

"Dwi'n meddwl mai cyfrannu a chefnogi lle bynnag y gallwn ni yw'r peth i wneud. Ma' eisiau i ni sylweddoli a chofio beth yn union fasen ni'n ei golli petai'r llefydd yma'n cau lawr, ac annog eraill i'n helpu."

Hefyd o ddiddordeb: