Teyrnged i blismones fu farw ar ffordd yr A40
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai un o'u plismyn nhw gafodd ei lladd wedi gwrthdrawiad rhwng fan a beic ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin nos Iau.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd bod y Rhingyll Lynwen Thomas yn blismones a oedd yn cael ei pharchu'n fawr.
"Ry'n ni'n meddwl am deulu, ffrindiau a chydweithwyr sy'n cael cymorth arbenigol ac ry'n yn gofyn i deulu gael preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn," ychwanegodd llefarydd.
Ar Twitter, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn "ddiwrnod trist ofnadwy" i bawb yn y llu.
Dywedodd bod Ms Thomas yn "swyddog ifanc talentog", gan gydymdeimlo gyda'i theulu, ffrindiau a chyd-weithwyr.
Yn gynharach cafodd gyrrwr fan ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo gael ei ar arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd ddeuol yr A40 tua'r gorllewin ger Bancyfelin a deallir bod Ms Thomas a oedd ar gefn beic wedi marw yn y digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18:40.
Mae plismyn yn galw ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.