Galw am dreialon canabis i garcharorion
- Cyhoeddwyd
Dylai carchardai yng Nghymru geisio rhoi canabis am ddim i garcharorion er mwyn lleihau dibyniaeth a thrais, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Dywedodd cyn-arolygydd yr heddlu, Arfon Jones, y gallai'r symudiad radical helpu troseddwyr i oresgyn eu problemau cyffuriau.
Mae Mr Jones yn rhoi'r gorau i'w swydd yn goruchwylio Heddlu Gogledd Cymru ar ôl yr etholiad i ddewis comisiynydd newydd ym mis Mai.
Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai fod ganddo agwedd "dim goddefgarwch" tuag at gyffuriau.
Yn ôl adroddiad diweddar gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe, dywedodd swyddogion yng ngharchardai'r DU fod 13% o ddynion "wedi nodi eu bod wedi datblygu problem gyda chyffuriau anghyfreithlon" ers bod dan glo.
Tynnodd sylw hefyd at archwiliad di-rybudd gan arolygwyr carchardai yng Nghaerdydd, a glywodd bod 52% o garcharorion yn dweud ei bod yn hawdd cael cyffuriau anghyfreithlon.
Tynnodd yr adroddiad sylw at bryderon a godwyd gan Arolygiaeth Carchardai'r DU, a ddisgrifiodd y cynnydd yn y defnydd o gyffuriau synthetig fel Spice fel "y bygythiad mwyaf difrifol i ddiogelwch y system garchardai" erbyn hyn.
Rheoli dibyniaeth
Dywedodd Mr Jones fod angen i awdurdodau "fynd i'r afael ag achosion" dibyniaeth a thrais mewn carchardai - yn enwedig cyffuriau fel Spice.
Yn 2018, bu farw Luke Morris Jones, 22, o Flaenau Ffestiniog, yng Ngharchar Berwyn ar ôl cymryd Spice.
Daeth rheithgor yn y cwest yn ddiweddarach i'r casgliad bod yna "fethiant systematig" wedi bod i rwystro cyffuriau rhag mynd i mewn i'r carchar, a gyfrannodd at ei farwolaeth.
Mae llawer o garcharorion yn derbyn cyffuriau cyfreithlon - opiodau - fel methadon a buprenorffin i reoli eu dibyniaeth tra eu bod nhw'n parhau a'u dedfryd.
Dywedodd Mr Jones: "Mae opioidau yn fwy peryglus na chanabis. Os ydyn nhw ar opioidau, pam na fyddai'n bosibl rhoi canabis iddyn nhw?
"Gadewch i ni gyflenwi canabis dan amodau rheoledig a gweld a yw troseddau'n lleihau."
Ychwanegodd mai'r nod fyddai "gwneud carchardai yn fwy diogel".
Mae Mr Jones wedi bod yn ymgyrchydd ers amser maith ar y materion sy'n ymwneud â defnyddio a gwahardd cyffuriau, ac yn aml mae wedi cefnogi galwadau am gynlluniau pigiad heroin i bobl sy'n gaeth mewn amgylchedd ddiogel, wedi ei rheoli.
Mae ymgeiswyr Ceidwadol a Llafur Cymru ar gyfer swydd y Comisiynydd wedi bod yn feirniadol o'i syniad diweddaraf.
Dywedodd ymgeisydd y Ceidwadwyr yng ngogledd Cymru, Pat Astbury: "Efallai bod ffyrdd eraill o drin carcharorion, gan ddefnyddio meddyginiaethau amgen sy'n gyfreithlon ac yn dynwared cyffuriau anghyfreithlon.
"Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr torri'r gyfraith ar draul yr heddlu rydych chi'n eu cynrychioli."
Ychwanegodd Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur: "Mae yna lawer o ffyrdd i atal defnyddio cyffuriau ond dydy hyn ddim yn un ohonyn nhw - dylid cryfhau rhaglenni atal a thrin i mewn ac allan o'r carchar, a mi fydda' i yn gweithio gyda phartneriaid, os ga' i fy ethol, i wneud hynny."
Dywedodd nad "cyffuriau mewn carchardai" oedd y mater mwyaf ond "cyffuriau mewn cymdeithas", a galwodd Mr Dunbobbin am fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl.
Dywedodd Ann Griffith, ymgeisydd Plaid Cymru, fod treial canabis yn "rhywbeth y byddwn yn barod i'w ystyried yn ofalus" gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol.
"Byddai angen i unrhyw fenter o'r fath ystyried unrhyw ganlyniadau anfwriadol," meddai, "a byddai angen iddi fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a gwerthuso cadarn."
Dywedodd un o swyddogion y Gwasanaeth Carchardai: "Mae gennym agwedd dim goddefgarwch tuag at gyffuriau ac rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau gofal iechyd i gefnogi troseddwyr trwy driniaeth ac adferiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018