Hosbis gyntaf Ynys Môn yn agor ei drysau
- Cyhoeddwyd

Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd elusen Hosbis Dewi Sant yn agor hosbis ar safle Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi.
Dyma ydy'r hosbis gyntaf i gael ei lleoli ar Ynys Môn.
Mae pedwar gwely yn yr hosbis a'r gobaith yw y bydd y datblygiad yn cynnig gwasanaeth pwysig i drigolion Môn yn agos i'w cartref.
Llwyddodd elusen Hosbis Dewi Sant i gael £450,000 o arian cronfa'r loteri tuag at y cynllun.
Mae gan yr elusen, sydd eleni yn 20 oed, hosbis yn Llandudno a chanolfan ym Mangor ac maen nhw'n rhoi cefnogaeth i tua 1,000 o bobl bob blwyddyn.

"Mae'n waith lle 'dan ni hefyd yn cael rhywbeth nôl," medd y matron Glenys Sullivan
Glenys Sullivan yw matron Hosbis Dewi Sant a dywedodd wrth Cymru Fyw y bydd yr hosbis newydd yng Nghaergybi yn cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf.
"'Dan ni'n mynd i gynnig 'run fath yn union a be sy' gennym ni yn Llandudno… hynny ydi gofal i bobl Sir Fôn ac ella o Fangor - gofal diwedd oes, dim jyst dyddiau diwethaf - wythnosau diwethaf a gofal respite hefyd.
"Mae o'n waith anodd iawn ond mae o'n waith lle 'dan ni'n cael rhywbeth yn ôl ein hunain drwy helpu eraill."

Am y tair blynedd ddiwethaf, mae Hosbis Dewi Sant wedi bod ag uchelgais i gael mwy o welyau yng ngogledd-orllewin Cymru er mwyn darparu gwasanaeth gofal diwedd oes i gleifion ar draws Môn, Gwynedd a Chonwy.
Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae hosbis Môn yn annibynnol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae'r tîm clinigol yn cael ei gyllido gan Hosbis Dewi Sant, trwy roddion elusennol a chefnogaeth y gymuned leol.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi darparu'r lle ar gyfer yr hosbis yn ogystal â'r gwasanaethau cymorth gan gynnwys arlwyo, cynnal a chadw.
Bydd yna berthynas weithio agos rhwng tîm yr hosbis, gwasanaethau'r bwrdd iechyd lleol a meddygon teulu.

"Rydym yn diolch i bobl Môn am eu cefnogaeth barhaus," medd Trystan Pritchard
Dywedodd Trystan Pritchard, Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant: "Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyflenwi gofal i bobl Ynys Môn pan fyddant ar eu mwyaf bregus.
"Mae'n hollbwysig fod cleifion a theuluoedd yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar ddiwedd oes a hynny mor agos i'w cymunedau eu hunain ag sy'n bosib.
"Mae tîm y bwrdd iechyd wedi bod yn rhagorol yn helpu i wneud i'r prosiect hwn ddigwydd ac rydym yn ddiolchgar i bobl Ynys Môn am eu cefnogaeth barhaus."
'Modern, cysurus a heddychlon'
Dywedodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wrth ein bodd fod yr hosbis newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley yn agor.

Yr olygfa o'r hosbis newydd ym Môn
"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Hosbis Dewi Sant gydol yr amser i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu cael gofal diwedd oes yn agosach at eu cartrefi.
"Mae'r cyfleusterau pedair ystafell wely newydd yn darparu amgylchedd modern, cysurus a heddychlon.
"Does gennym ddim amheuaeth y bydd y datblygiad hwn, sydd ei fawr angen, yn cael ei groesawu'n fawr gan y gymuned leol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019