Chwilio am gerddwraig goll oddi ar arfordir Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Susan SmithFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Deallir bod Susan Smith wedi cerdded ar y traeth rhwng Llanismel a Glanyferi brynhawn Sadwrn

Mae plismyn sy'n rhan o'r chwilio am gerddwraig goll oddi ar arfordir Sir Gaerfyrddin yn chwilio am berson oedd yn hedfan drôn yn yr ardal pan wnaeth hi ddiflannu.

Cafodd Susan Smith ei gweld ddiwethaf oddeutu 13:30 ddydd Sadwrn ger pentref Cydweli.

Mae timau achub gwylwyr y glannau, hofrennydd, badau achub yr RNLI a thîm achub mynydd yn helpu Heddlu Dyfed-Powys i ddod o hyd i Ms Smith.

Dywed plismyn eu bod yn awyddus i'r person oedd yn hedfan drôn yn yr ardal i gysylltu â nhw.

Dywed swyddogion bod Ms Smith oddeutu 5 troedfedd 2 fodfedd o daldra, yn fach o ran maint a bod ganddi wallt golau.

Deallir ei bod wedi cerdded ar y traeth rhwng Llanismel a Glanyferi a'i bod yn gwisgo jîns du, top du a glas tywyll a sgidiau cerdded llwyd pan welwyd hi ddiwethaf brynhawn Sadwrn.