Arestio dyn wedi ffrwydriad mewn siop yn Llanrhymni

  • Cyhoeddwyd
police car on Countisbury Avenue, Cardiff
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i 40 o bobl adael eu fflatiau uwchben siop

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â lladrad a achosodd ffrwydriad sylweddol yng Nghaerdydd fore Gwener.

Bu'n rhaid i 40 o bobl adael eu fflatiau uwchben siop y Co-op ar Rhodfa Countisbury yn Llanrhymni wedi i silindrau asetylen gael eu defnyddio i gael mynediad i'r siop a'r peiriant ATM.

Cafodd y dyn 20 oed o Lanrhymni ei arestio ar gyhuddiad o fwrgleriaeth ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod dal yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.

Pynciau cysylltiedig