Galw am wneud mwy i helpu pobl â Clefyd Motor Niwron
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r pleidiau gwleidyddol i wneud mwy i ddangos eu "hymrwymiad clir i gynyddu cyllid" i helpu unigolion sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron.
Wrth lansio eu maniffesto, mae'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron yn dweud fod rhai sy'n byw â'r cyflwr yn parhau i fyw mewn cartrefi anaddas gan nad ydynt yn gallu "fforddio neu'n methu cael mynediad at gymorth" i'w haddasu.
Mae Clefyd Motor Niwron (MND) yn effeithio ar yr ymennydd a'r cyhyrau, ac yn ôl y gymdeithas mae traean o bobl yn marw o fewn blwyddyn o gael diagnosis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi clustnodi £4m i helpu teuluoedd i gael addasiadau i'w tai trwy eu hawdurdodau lleol yn ddirwystr.
Mae Clefyd Motor Niwron yn gyflwr ffyrnig, a does dim gwellhad.
Mae'n effeithio ar y cyhyrau ac mae'n gallu effeithio ar y ffordd mae pobl yn siarad, yn symud, yn yfed ac anadlu.
'Ddim yn addas'
Mae Terry Williams o Benygroes a David 'Ces' Owen o Lanwnda yn byw gyda'r clefyd, ond mae cyflwr Terry yn dirywio'n sydyn o'i gymharu ag un Ces, sy'n dirywio'n arafach.
Er mwyn dygymod â'r newid byd mae gwraig Terry, Claire Yardley Williams wedi gwneud ceisiadau am addasiadau i'w tŷ ond mae hi wedi gweld y broses yn anodd a'r pandemig wedi gwneud y profiad yn anoddach fyth.
"Mae'r stair lift wedi cael ei roi i mewn ond ar hyn o bryd dydy Terry methu ei ddefnyddio," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Mi oedd o'n gallu, ond oherwydd ei gerddediad dydy o methu rŵan. Mae o'n cysgu lawr grisiau oherwydd dydy ei wely fyny grisiau ddim yn addas.
"Roedden ni wedi gwneud cais i gael gwneud yr ystafell 'molchi, ond oherwydd ein bod ni wedi aros mor hir dydy'r newidiadau yna ddim yn addas."
Mae'r pandemig wedi rhwystro nifer o driniaethau a chymorth, ond mae Ms Yardley Williams yn mynnu fod ei gŵr angen y ddarpariaeth yn syth.
'Pethau'n rhy araf'
Dywedodd rheolwr polisi y Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, Sian Guest bod "pethau yn digwydd yn rhy araf".
"Mae MND yn datblygu'n gyflym iawn ac unwaith maen nhw wedi eu hasesu mae o'n cymryd llawer gormod o amser i roi'r addasiadau yn eu lle," meddai.
"Yn y cyfamser mae pobl ag MND yn mynd yn gaeth i gartref ac yn anffodus mae rhai cleifion wedi marw tra'n aros am y newidiadau."
Yn debyg i Terry, fe gafodd Ces Owen ddiagnosis o MND y llynedd.
Mae ei gyflwr o yn dirywio'n araf ond mae eisoes wedi gwneud newidiadau i'w dŷ gan ragdybio'r angen.
"Ges i lwyth o ymchwil fel pinnau a sioc i'r corff, a dyma fi'n cael fy ngalw a dyma nhw'n d'eud wrtha fi [bod ganddo'r cyflwr]. Roedd o'n glec," meddai.
"Doeddwn i ddim eisiau i neb wybod a nes i gau fy hun mewn, ond fel mae amser yn mynd, rŵan dwi wedi ei dderbyn o," meddai.
'Cyfrifoldeb awdurdodau lleol'
Fe ofynnodd BBC Cymru i'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig am eu hymateb.
Dim ond y Blaid Lafur atebodd y cais, drwy ddweud eu bod nhw eisiau i "bawb gael y gofal maen nhw ei angen", a'u bod yn croesawu pobl i gysylltu â nhw er mwyn helpu i wireddu hynny.
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru mai lle awdurdodau lleol ydy "darparu addasiadau ac adnoddau".
Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi clustnodi "£4m yn ychwanegol i awdurdodau lleol" ddarparu addasiadau o'r fath.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018