Pan laniodd seren wib ym Meddgelert...
- Cyhoeddwyd
Mae sawl un wedi gweld sêr gwib yn yr awyr uwch gogledd Cymru a rhannau o Loegr ers nos Sul gyda gwyddonwyr yn dweud mai darnau o asteroid yn dod mewn i atmosffer y Ddaear ydy'r awyrfeini (meteorites) sydd wedi bod yn goleuo'r nos.
Cafodd y seren wib yn y clip, dolen allanol ei gweld gan John Llewelyn Elias tra'n gyrru yn y car ger Trawsfynydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae adroddiadau eraill wedi dod o Abersoch a Bethesda ac mae dyfalu ei bod yn bosib y gallai darnau o awyrfeini fod wedi cyrraedd y ddaear i'r gogledd o Cheltenham yn Swydd Gaerloyw.
Anaml iawn mae hynny'n digwydd, a'r tro diwethaf i awyrfaen neu feteorit gael ei ddarganfod wedi dod i'r ddaear yng Nghymru oedd yn 1949 ym Meddgelert.
Awyrfaen Beddgelert
Yn oriau mân y bore ar Medi 21, 1949 fe saethodd y meteorit drwy do gwesty'r Tywysog Llewelyn ym Meddgelert.
Un o'r gohebwyr cyntaf i'w weld oedd Dyfed Evans, oedd yn gweithio i bapur newydd Y Cymro ar y pryd.
Roedd yr awyrfaen wedi syrthio drwy'r awyr "trwy blaster y nenfwd ac i fewn i lawr un o'r stafelloedd fyny grisiau," meddai Mr Evans mewn adroddiad ar un o wefannau lleol BBC Cymru sydd wedi ei harchifo.
"Wrth gael mwy o'r stori, ffeindiais fod 'na westeion yn cysgu mewn 11 o'r stafelloedd, ond bod neb wedi clywed dim. Beth sy'n rhyfeddol yw bod y garreg wedi syrthio yn y lolfa, yr unig ystafell wag i fyny grisiau.
I lygad anghyfarwydd, roedd y garreg yn debyg iawn i garreg ithfaen, ond bod hoel llosgi arni
"Cafodd Mr a Mrs Tilloston, perchnogion y gwesty, eu deffro gan ryw ergyd a chyfarth y ci defaid ond doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd nes i'r forwyn, Kate Williams, ddarganfod y difrod yn y bore."
Roedd yr awyrfaen yn pwyso tua 794g a thua maint pêl griced. Roedd llawer o bobl leol wedi clywed synau ac ergydion rhyfedd tua'r un amser hefyd.
"Roedd o'n deimlad rhyfeddol cyffwrdd ynddi. I lygad anghyfarwydd, roedd y garreg yn debyg iawn i garreg ithfaen, ond bod hoel llosgi arni," meddai Mr Evans oedd yn credu bod y garreg yn gynnes pan afaelodd ynddi.
Un arall a afaelodd yn yr awyrfaen oedd taid Shirley Williams a aeth i'r gwesty i drwsio'r difrod, fel y dywedodd wrth brosiect fideo Cipolwg ar Gymru BBC Cymru.
"Wrth iddo glirio'r llanast, cydiodd yn yr asteroid a chwyddodd ei ddwylo, gan droi'n goch," meddai Shirley.
"Cafodd ei destio am radioactivity ond er mawr siom i'r wasg, doedd dim niwed."
'Maint ŵy'
Awyrfaen Beddgelert yw'r mwyaf sydd wedi ei ddarganfod yng Nghymru; mae cofnod arall o un llai yn dod i'r ddaear ym Mhontllyfni yn 1931.
Cafodd hwnnw ei ddarganfod ar fferm Coch y Bîg, Brynaerau, Clynnog. , dolen allanol
"Disgynnodd hi o fewn chwe llath i'r amaethwr Mr J Lloyd Jones oedd yn cerdded ar draws y cae ar y pryd," meddai Dyfed Evans.
"Daeth o hyd iddi wedi ei chladdu naw modfedd i fewn i'r ddaear, er dim ond maint ŵy cyffredin, yn pwyso rhyw bum owns, oedd hi."
Cawodydd meteorit
Yn ôl gwyddonwyr o'r UK Fireball Alliance (UKFAll) byddai golau o'r deunydd ddaeth drwy'r atmosffer ar y penwythnos wedi ei weld o Iwerddon i'r Iseldiroedd.
Mae 'na adegau o'r flwyddyn pan mae mwy o gawodydd meteorit i'w gweld nag eraill, meddai'r ffisegydd Dr Peri Vaughan Jones.
"Gan fod y ddaear yn troi o gwmpas yr haul mae weithiau efallai'n mynd trwy ardal sydd efo mwy o'r llwch a'r creigiau mân sydd yn y gofod, ac os oes 'na glwstwr o lwch a cherrig yn y gofod yna mae'n dod mewn i'r atmosffer.
"Am eu bod nhw'n dod mor ofnadwy o sydyn maen nhw'n goleuo fyny ac yn edrych fel sêr sy'n gwibio heibio.
"Pan maen nhw'n cyrraedd yr atmosffer mae'r rhan fwyaf yn llosgi allan cyn cyrraedd y ddaear ond weithiau maen nhw'n cyrraedd y ddaear yn ddarnau mân," eglurodd.
Peidio â chyffwrdd
Er mor brin yw cael hyd iddyn nhw, pan maen nhw'n glanio, mae'n nhw'n arbennig o bwysig i wyddonwyr.
"Maen nhw wedi bod yn trafaelio o gwmpas am filiynau o flynyddoedd cyn dod i'n atmosffer ni. Dyna pam mae edrych ar asteroids a comets pan mae nhw'n dod yn agos i'r ddaear yn ofnadwy o bwysig achos fod ganddyn nhw gymaint o hanes," meddai Dr Vaughan Jones.
"A phan maen nhw'n cyrraedd y ddaear mae'n ofnadwy o bwysig bod ni'n edrych i fewn iddyn nhw achos dydyn ni ddim yn gwybod be' 'dan ni'n gallu ei ddarganfod a'i ddysgu am y gofod."
Mae rhannau o awyrfaen Beddgelert ym Mhryfysgol Durham ac Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain. Rhoddwyd sleisen ohono i Amgueddfa Cymru; mae'n cael ei arddangos yng Nghaerdydd.
Os ydy pobl yn dod o hyd i ddarnau ar y ddaear mae gwyddonwyr yn eu cynghori i nodi ei leoliad gyda GPS eu ffôn, tynnu ei lun ble mae'n gorwedd os yn bosib, peidio ei gyffwrdd gyda magned ac osgoi cyffwrdd gyda'u dwylo.
Hefyd o ddiddordeb: