Dylai gofal iechyd meddwl 'ddim fod yn fater o lwc'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bobl ar draws Cymru, yn ôl rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi methu a chael triniaeth yn y Gymraeg.
Yn ôl Lewis Owen, o Ferthyr, sydd wedi methu dod o hyd i gwnsela trwy gyfrwng y Gymraeg, "mae angen i'r llywodraeth wneud mwy nawr i sicrhau bod yna wasanaethau da ar gael yn y Gymraeg, a fi'n credu dyna'r gair allweddol yw gwasanaethau da".
"Mae'n iawn cael gwasanaethau, ond mae angen sicrhau bod yna bethau sydd yn werthfawr i'r bobl, fel fi, sydd wedi bod yn ceisio cael mynediad i'r gwasanaethau yna," ychwanegodd.
Dywed Llywodraeth Cymru bod ei fframwaith strategol - 'Mwy na geiriau' - yn bwriadu cryfhau darpariaeth y Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a bod ganddyn nhw gynllun hirdymor sy'n rhoi lle "canolog" i'r Gymraeg mewn gofal iechyd.
Ychwanegodd pob bwrdd iechyd a atebodd ein cais am wybodaeth am argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg eu bod wedi "ymrwymo" i gynyddu eu hargaeledd yn unol â pholisi 'Mwy na geiriau' y llywodraeth.
Mae Lewis, sy'n 27 ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi profi gorbryder ac anhwylder bwyta ers ei arddegau cynnar.
Er ei fod wedi derbyn triniaeth am y cyflyrau hyn dros y blynyddoedd, nid yw wedi llwyddo i ddod o hyd i driniaeth yn y Gymraeg.
"Fel mae lot o bobl yn gwybod mae yna lot o stigma o gwmpas anhwylderau bwyta, yn enwedig mewn dynion, felly oedd e'n really anodd siarad gyda unrhyw un amdano fe ac wedyn trio ffeindio help hefyd," meddai.
"O'n i eisiau cael help yn y Gymraeg, achos fyse ni 'di teimlo lot fwy cyfforddus yn siarad am y pethau 'ma yn y Gymraeg.
"Ti'n gorfod sôn am dy hanes di, a'r pethau falle sy'n boenus sy' 'di digwydd yn ystod eich bywyd, felly i 'neud hwnna yn y Gymraeg, bysai hwnna di bod yn brofiad lot lai pryderus."
Dywedodd Lewis nad oedd e wedi cael y cynnig o gwnsela yn y Gymraeg, a bod e'n anoddach dod o hyd i'r gwasanaethau hynny yn y lle cyntaf.
"Mae'r profiadau dwi 'di cael yn bersonol ddim 'di bod yn gadarnhaol iawn o ran gwasanaethau Cymraeg sy'n gryf."
Un arall sydd wedi profi anawsterau'n derbyn triniaeth trwy'r Gymraeg yw Manon Elin, sy'n fyfyriwr doethuriaeth o Gaerfyrddin.
Mae Manon yn gwirfoddoli i elusen Meddwl ac mae hi wedi cael cwnsela yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Oedd yna fyd o wahaniaeth rhwng y ddau," meddai.
"Yn Saesneg o'n i ddim yn teimlo fel fy mod i'n gallu mynegi fy nheimladau'n iawn, o'n i'n gorfod cyfieithu popeth yn fy mhen, ac oedd e jyst yn teimlo fel rhwystr ychwanegol i'r broses yna o wella.
"Dwi'n meddwl yn y Gymraeg, mae'n broblemau iechyd meddwl i, i raddau helaeth, yn digwydd yn y Gymraeg, felly mae'n gwneud synnwyr really bod fi angen gallu trafod hynny yn Gymraeg."
Dywedodd Manon nad yw hi wedi gallu cael cwnsela trwy gyfrwng y Gymraeg trwy'r gwasanaeth iechyd.
"Mae'n ddiddorol mai dim ond trwy'r brifysgol dwi 'di gallu cael unrhyw fath o help iechyd meddwl yn Gymraeg. Mae popeth trwy'r gwasanaeth iechyd 'di bod yn Saesneg o'm mhrofiad i."
"Dylai cael gofal iechyd meddwl yn eich mamiaith ddim bod yn fater o lwc, dylai fe fod yn fater o drefn ac yn hollol naturiol, achos mae wir yn cael effaith ar adferiad rhywun."
Yn ôl Rhian Price, seicotherapydd a chwnselydd sy'n cynnig gwasanaethau Cymraeg: "Mae dod am sesiynau therapi yn broses eitha' anodd. Ac mae'r cleient yn teimlo'n fregus, maen nhw angen gallu agor i fyny.
"Yn gwaith fi dwi'n trio cael pobl i mewn i'w teimladau nhw, sef y subconscious, ac mae hynna'n dod i fyny'n naturiol... so dwi'n meddwl os oes rhywun yn stuck yn eu pennau nhw'n meddwl 'reit be' dwi'n mynd i ddeud nesa'? Be' 'di'r gair nesa'? Mae hynna'n mynd i fod yn ffocws nhw yn lle gallu mynd mewn i'r teimladau a'r profiad."
Sefyllfa sy'n 'peri pryder'
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn dweud bod y sefyllfa bresennol "yn peri pryder".
"Rydym wedi clywed am nifer o achosion diweddar am bobl yn methu â derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae hyn yn peri pryder inni," meddai.
"Ers 2012 mae Mwy na Geiriau yn tanlinellu pwysigrwydd derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Rydym yn rhwystredig ac yn siomedig o glywed felly bod yr anawsterau hyn yn parhau.
"Gan fod siaradwyr Cymraeg yn byw ym mhob rhan o Gymru rhaid i'r gwasanaethau hyn fod ar gael yn y Gymraeg ym mhob cwr o'r wlad.
"Mae gofyn i fyrddau iechyd asesu anghenion eu poblogaeth o safbwynt yr angen am wasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg a chynllunio ar gyfer hynny.
"Yn ymarferol felly mae angen cynyddu faint o ymarferwyr sy'n gallu gweithio yn y maes iechyd meddwl yn y Gymraeg.
"Rhaid hefyd gynllunio gwasanaethau fel y bo ymarferwyr ar gael i ddarparu'r gwasanaethau hyn heb fod angen i unigolion ofyn am wasanaethau Cymraeg."
Ymrwymo i ddatblygu argaeledd gwasanaethau
Dywedodd pob bwrdd iechyd a atebodd ein cais am wybodaeth am argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg a'u bod wedi ymrwymo i ddatblygu eu hargaeledd yn unol â fframwaith strategol Llywodraeth Cymru, 'Mwy na geiriau'.
Er hyn, dywedodd rhai bod y nifer o wasanaethau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn isel, a bod hwn yn wir ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen allweddol o ofal, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd meddwl pan fydd pryderon sensitif ac emosiynol yn cael eu trafod.
"Nod ein strategaeth 'Mwy na geiriau...' yw cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym wedi comisiynu gwerthusiad i helpu i bennu arferion a blaenoriaethau'r dyfodol.
"Mae'r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a lansiwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar, yn dangos ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle canolog wrth iddi gael ei gweithredu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019