Non Parry: Peidiwch â bod ofn siarad am iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Non

Mae Non Parry, o'r grŵp pop Eden, wedi datgelu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ei bod yn dioddef gydag anhwylderau iechyd meddwl.

Mewn erthygl bwerus ar wefan Meddwl.org, dolen allanol, mae Non yn esbonio ei bod wedi penderfynu rhannu ei phrofiadau er mwyn annog mwy o bobl i siarad am y cyflwr.

Mae Cymru Fyw wedi ail-gyhoeddi darnau o'r erthygl isod. Ewch i wefan Meddwl.org i ddarllen y darn llawn, dolen allanol.

Hei! Non Parry dwi. Dwi'n 45, yn briod gyda tri o blant ac un llys fab ac un llys ferch. Dwi'n aelod o grŵp pop Cymraeg Eden. Dwi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau, felly fel rhywun sydd wedi arfer sgwennu 'straeon' os liciwch chi, dwi wedi hen arfer disgrifio cymeriadau a theimladau, meddwl am blot, helpu'r gynulleidfa ddod i 'nabod prif gymeriadau ayyb.

Ond mae sgwennu hwn yn wahanol achos fi yw'r prif gymeriad a'r stori yw'n iechyd meddwl i. Anodd gwybod lle i pitchio 'dwi'n byw gyda cyfnodau o iselder, panic attacks ac anxiety' Ond ta-daaa! Fi'n 'colli'r plot' yw'r plot. Awkward.

I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gydag Eden, Googlwch os chi isio… fi di'r un yn y canol sy'n dawnsio a gwenu a chanu caneuon super fun am 'Partis' a 'Pethe Bach' sy'n neud i fi deimlo'n hapus - a dwi'n feddwl o, mae pethe bach yn neud fi'n hapus. Dwi'n berson rili hapus. A dwi'n caru canu a dawnsio gyda'r band, mae'n ridiculous o awesome!

'Paid â Bod Ofn' ydy kind of theme tune ni… ond rŵan dwi am bummio chi gyd allan a datgelu dwi actually ofn loads o bethe!

Pethe dwi ofn...

Ateb y ffôn, gwylie, teithio in general, partis plant, rhoi rhai pethe yn y bin/taflu pethe, noson rhieni, system trollies Aldi, audience participation, hotels, nos, bara…

So dwi wedi bod yn bangio 'mlaen yn canu "paid â bod ofn dweud be sy'n dy feddwl" ers 1996 ac rŵan dwi'n meddwl bod hi'n amser am ychydig o practice what you preach. A ma' fy meddwl i yn 'brysur' iawn, let's say!

Dwi ddim yn meddwl bod hi'n gyd-ddigwyddiad bod fy nghyfnod cyntaf gydag iselder wedi dod rhyw ddwy flynedd ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf. Dwi ddim yn meddwl mai post-natal depression oedd e ond mae cael babi yn newid byd.

Mae'n gallu bod yn isolating iawn ac mae'r list o bethe ti'n mynd i potentially neud yn 'wrong' os wyt ti isio bod yn fam dda yn ddiddiwedd!

Doeddwn i ddim yn drist, o'n i'n wag. Doedd gen i ddim gobaith yndda'i. Roedd lliwiau yn wahanol, sŵn popeth yn wahanol. Roedd wal invisible rhwng fi a pawb a phopeth arall a doedd gen i ddim gobaith dringo dros y wal a bod yn y lle gyda lliw. Roedd y teimlad yma fel ton oedd â'r gallu i paralysio fi yn y fan a'r lle. Methu symud, methu siarad. Roedd rhywbeth wedi cyrraedd a chymryd popeth oddi wrtha'i.

Ers hynna dwi wedi cael sawl cyfnod o iselder a does dim rheswm pam. Dwi'n siwr mod i wedi darllen yn rhywle bod iselder fel 'mugger'. Byswn i'n fine, bywyd yn grêt, ac o nunlle y thing yma yn cydio yndda'i. Un funud mae gen i handbag yn llawn o bethe lyfli, lliwgar, sbesial ac wedyn mae rhywbeth yn dod o nunlle a'm gwthio i i'r llawr a gwagu'r handbag. Yn fy ngadael i'n wag ac yn petrified.

Ond erbyn hyn dwi wedi dysgu, mae gen i bethe i helpu - os mae'r iselder yn dod mae gen i first aid kit yn fy 'handbag'. A phob tro dwi'n gwella yn gynt.

Y bennod nesa'?

Nai adael yr anxiety attacks a'r OCD i'r bennod nesa! Ond dyna'r thing, dwi ddim yn berson trist, dwi'n berson hapus, dwi'n rili positif, laff os unrhywbeth! Dwi'n ridiculously lwcus.

Ond yn ddiweddar dwi wedi teimlo bod angen imi fod yn fwy agored am yr ochr ohonai sydd ddim mor 'sunny' os liciwch chi, yr ochr sy'n strugglo weithie. Ac ers imi ddechre gneud hynny mae pethe wedi gwella. Esbonio yn union sut dwi'n teimlo pan dwi'n sâl yn hytrach na chuddio. A dim ond pethe da sydd wedi dod o neud hynny. Dyna sut dwi'n gwella. Mae'n gneud imi deimlo'n gryfach.

Mae'r cyflwr anweledig yma bron iawn yn amhosib i unrhyw un sydd ddim yn dioddef ei ddeall felly mae'n rhaid i ni helpu bobl i'n helpu ni drwy siarad yn agored heb gywilydd. Dwi'n credu bob tro 'da ni'n siarad, pob tro ni'n gadel pobol i fewn i'n pennau a'n meddyliau, da ni'n lleihau pŵer y cyflwr.

Siaradwch hefo rhywun.

Ewch i wefan Meddwl.org, dolen allanol i ddarllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am anhwylderau iechyd meddwl a gwybodaeth am ble i gael cymorth.

Hefyd o ddiddordeb