Brechlyn: Mwy o gyflenwadau a Chymru'n 'arwain y pac'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Mae pob jab 'dan ni'n rhoi yn teimlo step yn agosach'

Mae cynnydd mawr yn y cyflenwad o frechlynnau Covid yn golygu y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru allu darparu mwy o bigiadau nag erioed o'r blaen o'r wythnos nesaf, yn ôl prif fferyllydd Llywodraeth Cymru.

Daw hyn wrth i ffigyrau awgrymu bod miliwn o bobl yn debygol o fod wedi cael o leiaf dos cyntaf o frechlyn o fewn ychydig ddyddiau.

Yn ôl Andrew Evans fe allai mwy na 30,000 dos y dydd gael eu darparu yma o'r wythnos nesaf, yn debyg i'r lefelau brig welwyd yng nghanol mis Chwefror.

Mae'n dilyn cyfnod o arafu yn ystod y pythefnos diwethaf - hynny yn bennaf oherwydd gostyngiad yng nghyflenwad y brechlyn AstraZeneca.

Yn ôl Mr Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru, bydd cynnydd mawr yn y cyflenwad hwnnw yr wythnos hon a'r wythnos nesaf yn caniatáu i Gymru "barhau i arwain" gwledydd eraill y DU.

Gallai'r cyflymiad, meddai, hefyd arwain at agor mwy o ganolfannau brechu ac, ynghyd â meddygfeydd teulu, a nifer cynyddol o fferyllfeydd yn cael eu defnyddio hefyd.

Os bydd y momentwm yn parhau, dywedodd Mr Evans ei fod yn hyderus y gellir cyrraedd y cerrig milltir o gynnig pigiad cyntaf i grwpiau blaenoriaeth 5-9 erbyn canol mis Ebrill, gyda phob oedolyn yn cael cynnig pigiad erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Awgrymodd Mr Evans y gellid cynnig tua 20,000 o ddosau cyntaf a 10,000 o ail ddos bob dydd o'r wythnos nesaf.

Mae bron i 4% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi cael ail ddos o frechlyn - yn uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae Mr Evans yn awgrymu y gall y GIG yma barhau i "arwain y pac".

"Os yw cyflenwadau'n caniatáu, ry'n ni'n hyderus y gellir cyflawni'r cerrig milltir rydym wedi'u nodi - a phwy a ŵyr, os yw cyflenwadau'n mynd y tu hwnt i hynny, yna efallai y gallwn wneud yn well na hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yma yn gallu brechu 20 o bobl bob 10 munud yn y ganolfan

Mae adeilad yn Sblot yng Nghaerdydd yn rhoi syniad o'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ledled Cymru wrth sicrhau fod y broses o frechu mor llyfn â phosib.

Yn y neuadd hon mae unigolion, â'r cardiau apwyntiad hollbwysig yn eu dwylo, yn cael ei hanfon yn syth at un o tua dwsin o frechwyr sy'n aros amdanynt.

Y nyrs Carys Williams sy'n cydlynu'r gwaith.

"Ar y funud 'da'n ni'n cynnig yr ail ddos yn y ganolfan yma, ac yn gallu gweld dros fil o bobl y dydd," meddai.

"Rwy'n falch iawn i fod yn rhan o'r tîm. Mae cymaint o bobl yn cyfrannu."

Diolch i Carys a'r tîm, mae modd brechu 20 o bobl bob 10 munud yn y ganolfan hon nawr, o'i gymharu â phedwar person bob chwarter awr yn yr wythnosau cynnar.

Mae nyrsys dan hyfforddiant ymhlith y brechwyr, ac yn arsylwi mae Tirion James-Austin a benderfynodd hyfforddi i fod nyrs ar ôl gweld ymdrechion staff y gwasanaeth iechyd i ddelio â thon gyntaf Covid.

"Ces i fy ysbrydoli gan weld y nyrsys yn gweithio a gweld y gwaith caled ma' nhw wedi gwneud yn trio amddiffyn y wlad rhag Covid. Roeddwn ni am fod yn rhan o ohono fe.

Yr wythnos hon yn y ganolfan maen nhw wedi bod yn dosbarthu ail ddosau o'r brechlyn Pfizer Biontec i weithwyr iechyd a gofal.

Mae'r mwyafrif wedi cael eu hapwyntiadau yn gynt nag oedden nhw'n disgwyl.

Ond yn y ddwy ganolfan arall yn ardal y bwrdd iechyd, ym Mhentwyn ac yn Y Barri, mae nhw'n bwrw mlaen â'r gwaith o gynnig brechiadau cyntaf o'r brechlyn Rhydychen, i'r grwpiau nesaf syn cael blaenoriaeth.

Ac o ganlyniad i'r gwaith hynny yn ogystal â chyfraniad meddygfeydd ledled Cymru fe fydd miliwn o bobl wedi cael dos cyntaf cyn bo hir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae lefel y cyflenwadau i'r canolfannau wedi cynyddu

Yn ôl Teresa Meredith, pennaeth brechu torfol Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, mae honno'n garreg filltir bwysig.

"Y ni'n cyrraedd y cerrig milltir yn gynt nag oeddwn ni'n disgwyl.

"A gwaith tîm sy'n gyfrifol am hynny, ond ry'n ni'n edrych hefyd i ehangu.

"Ni wedi cynyddu'n cyflenwad yn barod o 14,000 o ddosau i 38,000 ac yn dechrau cynnig y rheiny o wythnos nesaf. Ma' pethau'n cyflymu."

Ar ôl pythefnos lle mae cyflenwad y brechlynnau wedi bod ychydig yn llai o ganlyniad i newidiadau yn y broses gynhyrchu, erbyn hyn maen nhw wedi dechrau llifo eto.

Yng Nghaerdydd a'r Fro, maen nhw'n ystyried agor canolfan frechu ychwanegol cyn bo hir, fydd yn fwy o faint na'r canolfannau presennol.

Ond nid ymdrech gan y gwasanaeth iechyd yn unig yw hyn, ond yn ffrwyth cydweithio rhwng sawl sefydliad.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Thomas: 'Modd agor mwy o ganolfannau pe bai angen'

"Dyna un o nodweddion mwy positif yr argyfwng. Ers misoedd ma' sawl grŵp wedi bod yn cynnal cyfarfodydd ac yn cydweithio. Ddyle fe fod yn digwydd bob dydd," medd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

"Os yw'r cyflenwad yn cyrraedd ma' gyda ni gynlluniau allwn ni weithredu ar fyrder i ehangu'r ddarpariaeth ac agor neuaddau newydd."

Ger y fynedfa nod Carys Williams yw sicrhau fod llif y brechu'n parhau'n ddi-dor.

Ac ma' hi'n gwybod yn iawn pa mor allweddol yw'r ymdrech. Roedd hi'n nyrs gofal dwys yn ystod y don gyntaf.

"Roeddwn ni'n nyrs gofal critigol am 32 o flynyddoedd, ond ar ôl y don gyntaf fe benderfynais i fod e'n amser i symud mlaen... roedd yr effaith yn ddifrifol, doedd gennyf i ddim mwy i roi.

"Rwy'n teimlo bydd pob brechiad dwi'n roi, neu pawb ar y tîm yn rhoi, yn gam yn agosach i ryw fath o normalrwydd ac i leihau'r straen ar y gwasanaeth iechyd."

Mae profiad Carys yn pwysleisio'r baich mae'r flwyddyn ddiweddaf wedi ei osod ar y gwasanaeth iechyd a'i staff, heb anghofio'r torcalon i gymaint o deuluoedd.

Ond y gobaith yw bydd ei gwaith hi, a miloedd yn rhagor, nid yn unig yn achub bywydau ond hefyd yn cynnig llwybr yn ôl at rywfaint o normalrwydd fydd, wrth gwrs, yn rhyddhad i bawb.

Pynciau cysylltiedig