Covid: 'Risg y gallai diweithdra greithio'r ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Job centreFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn rhoi sylw penodol i effeithiau diweithdra ar yr ifanc

Fe ddylai pobl ifanc gael sicrwydd o waith neu hyfforddiant neu wynebu cael eu "creithio" gan Covid-19, medd adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Bydd angen gweithredu, medd yr adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd, er mwyn "rhwystro cynnydd sylweddol mewn diweithdra ieuenctid".

Mae'r adroddiad wedi ei lunio gan bwyllgor yr economi - pwyllgor amlbleidiol - gan ddisgrifio problemau adfer yr economi yn dilyn Covid-19 fel y "her economaidd fwyaf mewn cof".

Ym mis Rhagfyr, Cymru welodd y cynnydd mwyaf yng nghyfradd diweithdra o ran gwledydd y DU.

Ond er hynny 4.4% oedd y raddfa diweithdra yng Nghymru fis diwethaf, sy'n is na'r cyfartaledd o 5.1% ar gyfer y DU.

Ffynhonnell y llun, William Perugini
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant lletygarwch, sy'n cyflogi llawer o bobl ifanc, wedi dioddef yn ystod y holl gyfnodau clo

Dywed yr adroddiad - 'Adferiad Hirdymor o Covid-19' - fod angen i'r adferiad ganolbwyntio ar wella sgiliau, gyda chymorth ariannol ar gyfer y sectorau sydd wedi eu heffeithio waethaf.

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am ymgyrch i sicrhau cyflogau byw real.

Yn ôl yr adroddiad, pobl ifanc oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael eu rhoi ar gynllun ffyrlo yn ystod ton gyntaf yr haint.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod cyfradd y rhai rhwng 18 a 24 yng Nghymru sy'n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi cynyddu yn "sylweddol" yn 2020.

"Heb y math cywir o gefnogaeth ar gyfer sgiliau, hyfforddiant a phrofiad gwaith, mae yna risg go iawn o genhedlaeth sydd wedi ei chreithio gan Covid," medd yr adroddiad.

Mae'n galw ar weinidogion i edrych ar frys ar gynllun i roi sicrwydd o waith neu hyfforddiant i'r grŵp rhwng 16 a 24 oed.

Mae cynllun o'r fath eisoes wedi ei sefydlu yn Yr Alban sy'n cynnig dwy flynedd o waith neu o hyfforddiant i ieuenctid.