Y rheithgor yn ystyried achos llofruddiaeth Y Barri
- Cyhoeddwyd

Mae chwe dyn a bachgen 17 oed wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Harry Baker
Mae'r rheithgor wedi dechrau ystyried eu penderfyniad yn achos chwe dyn a bachgen 17 oed sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio Harry Baker yn Y Barri.
Cafodd Mr Baker, o Gaerdydd, ei erlid i iard yn ardal dociau'r Barri, lle cafodd ei drywanu naw gwaith.
Yn ôl y erlyniad yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd Mr Baker, 17 oed, ei ddal a'i drywanu i farwolaeth gan werthwyr cyffuriau eraill ym mis Awst 2019.
Mae'r diffynyddion - Leon Clifford, 23, Raymond Thompson, 48, Lewis Evans, 62, Ryan Palmer, 34, Peter McCarthy, 37, oll o'r Barri, Leon Symons, 22 o Drelai yng Nghaerdydd a bachgen 17 oed nad oes modd ei enwi - yn gwadu llofruddiaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021