'Cael cyffuriau nid niweidio oedd ar fy meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Harry BakerFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwe dyn a bachgen 17 oed wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth Harry Baker

Mae dyn sy'n gwadu cyhuddiad o lofruddio llanc 17 oed yn nociau'r Barri yn dweud iddo afael mewn darn o bren y noson honno rhag ofn i un o'i gyd-ddiffynyddion ymosod arno - yna hytrach nag unrhyw fwriad i ymosod ar Harry Baker.

Cafodd Harry Baker o Gaerdydd ei drywanu naw gwaith a bu farw o'i anafiadau yn Awst 2019.

Mae chwech o ddynion, a llanc 17 oed na ellir ei enwi, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Dywedodd un o'r diffynyddion - Ryan Palmer, 34 oed - ei fod wedi dechrau rhedeg ar ôl Harry Baker gyda'r lleill oherwydd ei fod wedi prynu cyffuriau ganddo a heb eu cael.

Dywedodd mai cyffuriau oedd ar ei feddwl ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad o niweidio Harry Baker.

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr Ignatius Hughes QC, dywedodd Ryan Palmer ei fod yn sefyll ar gornel ffordd pan glywodd "lot o weiddi a chega".

"Ro' nhw gyd gyda chyllyll ac yn mynd am ei gilydd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Harry Baker yn nociau'r Barri yn Awst 2019

Dywedodd fod gan Leon Symons a'r bachgen 17 oed gyllyll, a bod Harry Baker a'i ffrind hefyd â chyllyll.

Cafodd ei holi pam iddo fynd ar ôl Harry Baker.

Dywedodd ei fod am gael y cyffuriau oedd wedi eu prynu.

"Doeddwn ddim yn gwybod fod unrhyw beth yn mynd i ddigwydd," meddai.

Dywedodd ei fod ond wedi gafael mewn darn o bren er mwyn amddiffyn ei hun yn y dociau "oherwydd bod pawb a chyllyll".

"Pwy oedd a chyllyll?" holodd ei fargyfreithiwr... "Gyd o fois Caerdydd", meddai.

Gwadu llofruddiaeth

Pan ofynnwyd iddo a wnaeth o drywanu Harry Baker neu annog rhywun arall i wneud dywedodd "na".

"Beth oedd ar eich meddwl pan wnaethoch adael," gofynnodd y bargyfreithiwr.

"Dwi ddim eisiau swnio'n oeraidd, ond cael gafael ar fy nghyffuriau."

Pan gafodd ei arestio dywedodd nad oedd yn gwybod fod rhywun wedi cael i drwynau yn yr iard.

Mae pob un o'r diffynyddion yn gwadu llofruddiaeth, ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig