Ateb y Galw: Y cyflwynydd radio Sian Eleri
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd radio Sian Eleri sy'n ateb ein cwestiynau busneslyd yr wythnos yma, mewn rhifyn arbennig o Ateb y Galw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae Sian, sy'n wreiddiol o Gaernarfon, wedi cael blwyddyn gyffrous iawn. Haf diwethaf, cyflwynodd a chyd-gynhyrchodd y gyfres Rhestr Chwararwyr ar BBC Radio Cymru, oedd yn adrodd straeon a chwarae hoff draciau rhai o'n gweithwyr allweddol.
Ym mis Ionawr, dechreuodd fel cyflwynydd newydd The Chillest Show ar BBC Radio 1, a hi oedd curadur y rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn Merched yn Gwneud Miwsig.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Chwarae efo cath fach lwyd a gwyn oedd yn dod drosodd i'r ardd pan o'n i'n 3-4 oed. 'Nath Pws fabwysiadu ni fel teulu ac aros rhyw 18 mlynedd wedyn! Yn amlwg odd o 'di joio cael ei lapio mewn blanced a mynd am dro mewn pram rownd yr ardd efo fi!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Angerddol, gwirion, ffeminist.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Dick Van Dyke yn Mary Poppins. Dwi dal yn!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Lan y môr Aberffraw, neu stafell haul Nain yn Harlech.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Penwythnos dwytha' yn gwylio diweddglo'r gyfres The Good Place. Cyfres cyfnod clo da i suddo'ch dannedd fewn iddo os da' chi'n chwilio am ysbrydoliaeth!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Bob tro dwi'n trio defnyddio siswrn. Rhwng fod yn llaw chwith a chael dwylo massive, dwi'n hoples.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Million dollar question! Heddiw, Dreams gan The Cranberries. Dwi 'di bod wrth fy modd efo Dolores O'Riordan ers gwrando i'r CD No Need To Argue ar y radio bach yn y gegin yn tyfu fyny, so ma' nghariad am y band 'di tyfu o fan'na. Gewch chi ateb gwahanol fory!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Codi allan o gwely yn y bora - ma' cynhesrwydd y duvet rhy neis i rwygo fy hun i ffwrdd yn enwedig yn y misoedd oer.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Michelle Obama, neu'r gymnast Simone Biles so fedra'i 'neud loads o flips.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson yn mwydro efo ffrindia' dan y lloer tra'n gweithio fel lifeguard mewn camp haf yn West Virginia yn 2014.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Trio trefnu cymaint o'n ffrindia' a theulu i gyd gyfarfod mewn parc, cyn mynd ar pub crawl.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n afiach o gystadleuol yn go-cartio. Podium finish plîs!
O archif Ateb y Galw:
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dwi'n siŵr bysa Alison Hammond yn lot o hwyl.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Scallops; tapas (gan obeithio fod hyn ddim yn twyllo - dwisho ynysoedd bach o fwyd gwahanol o'r Med ar y bwrdd plîs!); jammy doughnuts cynnes.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Lle i ddechrau?! Dwi wrth fy modd efo'r gyfres Joe Lycett's Obsessions. Mae llyfrau Manon Steffan Ros hefyd yn lyfli; Blasu yn enwedig.
Pa Gymraes sy'n dy ysbrydoli a pham?
Ruth Jones. Mae ei 'sgwennu a'i chreadigrwydd hi'n wych, mae hi'n gymeriad a hanner, ac mae'i siwrna hi o ddysgu Cymraeg mor ysbrydoledig. A'r laffs, wrth gwrs!
Beth yw dy neges di i unrhyw un sydd eisiau dilyn eu breuddwyd?
Bydda'n swnllyd am dy passion! Dwi'n ffyddiog fod y pobl iawn yn dy glywed di yn y pen draw. Mae mynd mewn i faes cystadleuol yn adnabod neb yn gallu teimlo mor amhosib, felly cym unrhyw gyfle i siarad ac adeiladu perthnasau efo pobl ar y tu fewn, a thrio peidio digalonni pan mae'n gallu cymryd blynyddoedd i unrhywbeth ddigwydd.
Dyfalbarhau, pob ffydd, bydda'n neis a croesi bysedd.
Beth yw uchafbwynt y flwyddyn ddiwethaf wedi bod i ti?
Cael fy swydd ddelfrydol, un oeddwn i byth yn dychmygu fysa'n bosib, yn enwedig ar ôl colli fy ngwaith i gyd am gwpl o fisoedd.
Pob diwrnod dwi'n deffro ac yn teimlo mor ofnadwy o lwcus cael rhannu cwmni a cherddoriaeth efo unrhyw un sy'n troi'r set radio 'mlaen. Braint llwyr.
Gallwch glywed Sian ar BBC Radio Cymru bob nos Fawrth am 18:30-21:00 ac ar The Chillest Show ar BBC Radio 1 bob nos Sul 19:00-21:00.