Y gwyddonydd sy'n datblygu'r 'ail beth gorau i laeth y fam'

  • Cyhoeddwyd
Sioned Fôn JonesFfynhonnell y llun, llun cyfrannwr

Mae gwyddonwyr yn gwybod ers tro fod bwydo o'r fron yn gallu helpu babanod i ymladd afiechydon ond dydi hi ddim bob amser yn bosib i fabi gael y manteision ddaw o'r 'bacteria da' yn llefrith y fam.

Mae myfyriwr o'r Waunfawr yng Ngwynedd yn rhan o dîm sy'n gobeithio newid hynny.

Mae Sioned Fôn Jones a dwy o'i chyd-fyfyrwyr yng ngholeg UCL a Choleg y Brenin yn Llundain yn datblygu fformiwla llaeth powdr newydd sy'n cynnwys y bacteria iach sydd i'w gael yn naturiol mewn llaeth o'r fron.

Mae'n faes ymchwil gweddol newydd, meddai Sioned, sydd wedi sefydlu cwmni i ddatblygu'r fformiwla newydd gyda'i chyd-fyfyrwyr fel rhan o'i hastudiaethau am ddoethuriaeth.

Dydi llaeth fformiwla arferol ddim wedi cynnwys y bacteria da yma o'r blaen eglurodd Sioned wrth Dewi Llwyd ar Radio Cymru.

"Mae 'na lot fawr o bacteria da yn byw yn llaeth y fron," meddai Sioned, "a pan mae babanod yn bwydo ar y llaeth mae bacteria da yn cael ei drosglwyddo ac yn cytrefu ym mherfedd y babanod.

"Mae'r bacteria da yma yn medru ymladd lot o afiechydon ac yn helpu i ddatblygu imiwnedd iach. Ond wrth gwrs mae hynny'n golygu bod y babanod sydd ddim yn bwydo o'r fron ac yn cael eu bwydo gan laeth fformiwla er enghraifft at risk o ddatblygu problemau iechyd fel plentyn hŷn a hefyd yn nes ymlaen mewn bywyd.

"So be' ydan ni'n neud ydy datblygu eilydd i laeth y fam sydd wedi ei greu o'r peth go iawn. Rydw i a dwy fyfyrwraig, Lydia a Tara, wedi casglu a dadansoddi llefrith dros 50 o famau."

Maen nhw'n defnyddio techneg arbennig, meddai Sioned, sy'n caniatáu iddyn nhw adnabod y bacteria yn ei elfennau lleiaf.

Babi yn  bwydo ar y fron
Getty Images
... rydyn ni wedi cael lot o famau sydd yn cael trafferth bwydo ar y fron wedi siarad efo ni [a] cyplau sydd wedi mabwysiadu heb yr opsiwn i fwydo...
Sioned Fôn Jones

Yna maen nhw'n tyfu'r bacteria mewn labordy ac yn cynnal profion i sicrhau bod y bacteria yn rhai da sy'n gallu ymladd yn erbyn pathogenau (meicrobau sy'n gallu achosi afiechyd).

"Wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon, rydyn ni'n datblygu cymysgedd neu goctêl o'r bacteria gorau bosib a fydd yn cael ei ddefnyddio fel yr ail beth gorau i laeth y fam pan dydi o ddim ar gael."

'Ychwanegiad i laeth fformiwla'

Maen nhw wedi cael ymateb da hyd yma gan famau sy'n cael trafferth bwydo ar y fron neu gyplau sydd wedi mabwysiadu ond maen nhw hefyd wedi cael diddordeb gan gwmnïau dros y byd sydd eisiau cydweithio.

Eu nod yw datblygu cynnyrch fydd ar gael yn y siopau i'w brynu fel ychwanegiad i laeth fformiwla a hefyd mewn ysbytai drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae'r cwmnïau mawr yma sy'n datblygu llefrith fformiwla i weld yn focusio ar y siwgr a'r pethau eraill da 'ma i gyd sydd o fewn y llaeth," meddai Sioned, ond mae ei chwmni hi yn wahanol am eu bod yn edrych ar y 'bacteria da' sydd yn faes reit newydd mewn gwyddoniaeth, meddai.

Disgrifiad,

Sioned Fôn Jones yn trafod cynnyrch ei chwmni Booby Biome sy'n gobeithio gwella iechyd babanod ar Radio Cymru

Gwrthgyrff i Covid-19

Maen nhw hefyd mewn sefyllfa arbennig i allu ymchwilio i'r bacteria o safbwynt Covid-19 a gweld a ydy'r bacteria yn y llaeth yn medru dylanwadu ar ymateb system imiwnedd babanod i'r coronafeirws.

"Dwi'n siŵr bydd hi reit ddiddorol gweld os oes gwrthgyrff Covid-19 yn llaeth y fam ac os ydi hi'n gallu trosglwyddo hyn i'r babanod, so mae hynny reit ecseiting hefyd."

Datblygu'r cynnyrch i wahanol wledydd dros y byd a gweithio gyda'r cwmni yn llawn amser yw'r nod i Sioned, ond mae am orffen ei doethuriaeth a chael y teitl Dr dan ei belt yn gyntaf.

Ysbrydoli merched mewn gwyddoniaeth

Mae ei doethuriaeth yn cyfuno ei phwnc gradd, cemeg, gyda bioleg celloedd drwy edrych ar DNA i ganfod newidiadau ym mhilen celloedd a allai fod yn arwydd o ganser.

Mae Sioned yn talu teyrnged i'w hathrawes gemeg yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, fel y person wnaeth ei hysbrydoli i fynd yn wyddonydd.

"Mathemateg a cherddoriaeth oedd fy mhethau yn yr ysgol tan imi gael fy nysgu gan Dr Beverly Jones yn Ysgol Brynrefail," meddai.

"Mae 'Bev Chem' yn ffantastig a hi wnaeth newid fy agwedd i at wyddoniaeth. Fyswn i'n bendant ddim yn gwneud be' dwi'n wneud rŵan oni bai amdani hi."

Gyda mwy o sôn am waith gwyddonwyr benywaidd oes angen diwrnod fel Diwrnod Rhyngwladol y Merched bellach?

"Oes definitely, fel merch sydd wedi setio fyny cwmni mewn gwyddoniaeth dwi wedi sylweddoli mor anodd ydi o i gael fy nghymryd o ddifri mewn maes wedi hollol gael ei ddominyddu gan ddynion.

"Hefyd mae iechyd merched ar y cyfan yn cael ei danariannu'n llwyr felly dwi'n teimlo fod diwrnodau fel hyn mor bwysig i gael merched - a merched mewn gwyddoniaeth yn benodol - ar y map i helpu merched ifanc i mewn i faes gwyddoniaeth."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig