Gŵyl i roi 'goleuni ar wytnwch y sector creadigol'
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfres o berfformiadau unigryw yn cael eu darlledu ar-lein dros y penwythnos dan faner Gŵyl 2021, wedi i'r pandemig atal pedair o wyliau poblogaidd Cymru rhag cael eu cynnal eleni.
Mae Gŵyl y Llais, FOCUS Wales, Lleisiau Eraill Aberteifi a Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi dod at ei gilydd i "daflu goleuni ar benderfynoldeb a gwytnwch sector creadigol Cymru".
Mae'r artistiaid o Gymru sy'n cymryd rhan yn cynnwys Cate Le Bon, Gruff Rhys, Kiri Pritchard-McLean, Adwaith, Ani Glass, Catrin Finch a Carys Eleri.
Cafodd yr holl berfformiadau ac ymarferion eu cynnal, eu ffilmio a'u recordio gan lynu at ganllawiau Covid-19, mewn lleoliadau ar draws Cymru ac yn rhyngwladol.
Mae'r ŵyl yn cael ei darlledu am ddim ar wefan y BBC ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Mae perfformwyr eraill yn cynnwys Arlo Parks, Charlotte Adigery, y bardd Sinead O'Brien ac enillydd Gwobr Gomedi Caeredin, Jordan Brookes.
Mae'r peth o gynnwys yr ŵyl hefyd i'w weld ar yr ap AM, ac mae FOCUS Wales wedi trefnu dangosiad arbennig o'r ffilm Eternal Beauty, a gafodd ei ffilmio yng Nghymru.
Dywedodd Graeme Farrow, cyfarwyddwr artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Mae Gŵyl y Llais wedi bod yn uchafbwynt ein calendr ers 2016, ac roedd gŵyl y llynedd yn argoeli i fod yn wych.
"Yn sgil y pandemig, canslwyd ein cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol, ond rydyn ni wrth ein boddau'n cydweithio â phartneriaid ardderchog i gyflwyno Gŵyl 2021."
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru: "Rydyn ni gyd angen tamaid o greadigrwydd, comedi a cherddoriaeth ar hyn o bryd, ac mae'r bartneriaeth newydd hon rhwng pedair gŵyl Gymreig wych yn argoeli i fod yn wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2021