Cyhuddo Prifysgol Abertawe o 'fethiant trychinebus'
- Cyhoeddwyd

Daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i'r casgliad nad oedd "er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen" gydag ymchwiliad yn erbyn yr Athro Clement
Bu "methiant trychinebus mewn llywodraethiant" ym Mhrifysgol Abertawe yn ôl academydd a gafodd ei ddiswyddo cyn i'r heddlu ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth o droseddu.
Cafodd yr Athro Marc Clement ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o gamymddwyn difrifol a llwgrwobrwyo, honiadau a gafodd eu hanfon at yr heddlu gan y brifysgol.
Daeth swyddogion i'r casgliad nad oedd "unrhyw dystiolaeth o droseddu", a daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i'r casgliad nad oedd "er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen".
Dywedodd Prifysgol Abertawe "bod yr ymchwiliad troseddol a phrosesau disgyblu mewnol y brifysgol wedi bod yn hollol ar wahân erioed".
Cafodd yr honiadau eu gwneud mewn perthynas â phentref llesiant gwerth £200 miliwn a gafodd ei gynllunio ar gyfer tref Llanelli.
Daeth yr heddlu i'r casgliad bod "y canllawiau caffael cywir yn cael eu dilyn a'u goruchwylio gan gwmnïau cyfreithiol arbenigol".

Daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i'r casgliad nad oedd "er budd y cyhoedd i fwrw ymlaen" gydag ymchwiliad yn erbyn yr Athro Clement
Fe groesawodd yr Athro Clement benderfyniad yr heddlu, gan ddweud nad oedd wedi cael "noson dda o orffwys" trwy gydol misoedd yr ymchwiliad.
Cafodd ei gyhuddo gan Brifysgol Abertawe y byddai wedi elwa'n bersonol o'r prosiect pentref lles.
Nid yr Athro Clement oedd yr unig un i gael ei ddiswyddo - fe gollodd ei gydweithiwr, Steve Poole, ei waith hefyd.
Ymddiswyddodd aelod arall o staff, Bjorn Rodde, o'r brifysgol.

Roedd swyddogion o Brifysgol Abertawe wedi cwyno wrth y Swyddfa Twyll Difrifol
Cafodd y cyn is-ganghellor, yr athro Richard Davies, ei ddiswyddo hefyd am gamymddwyn difrifol ac esgeulustod dybryd yn dilyn proses ddisgyblu gan y brifysgol.
Nid oedd yr Athro Davies yn rhan o ymchwiliad yr heddlu.
Mae'r pedwar wedi mynd ag achos yn erbyn Prifysgol Abertawe i dribiwnlys cyflogaeth ond mae wedi cael ei ohirio oherwydd ymchwiliad yr heddlu a'r pandemig.
Honnodd y brifysgol fod y diswyddiadau wedi digwydd oherwydd "toriadau difrifol i weithdrefnau'r brifysgol, ac nid am ganfyddiad o ymddygiad troseddol" a dywedodd nad yw'r penderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron "yn effeithio ar hyn o gwbl".
'Methiant trychinebus'
Aeth y brifysgol yn ei flaen i ddweud eu bod nhw "wedi diswyddo Marc Clement ym mis Gorffennaf 2019, yn dilyn ymchwiliad annibynnol manwl a thrylwyr a ddaeth o hyd i dystiolaeth bod ganddo fuddiannau sylweddol, heb eu datgan, a oedd yn werth miliynau o bunnoedd."
Dywedodd yr Athro Clement fod y digwyddiadau'n dangos "methiant trychinebus llywodraethiant ar ran Prifysgol Abertawe, gan ganiatáu i un neu nifer fach o swyddogion gweithredol arwain y brifysgol i'r sefyllfa hon, a gwario symiau enfawr o arian, arian cyhoeddus gan sefydliad elusennol, ar gynghorwyr cyfreithiol mwyaf drud, gan arwain at ganlyniad, lle mae Tarian - yr Uned Troseddau Cyfundrefnol rhanbarthol - wedi penderfynu nad ydyn nhw am fynd â phethau ymhellach. "
Ychwanegodd ei fod yn siomedig bod prosiect y pentref lles yn Llanelli wedi dod i stop.
"Fy emosiwn llethol yw'r tristwch ynglŷn â'r cyfle sydd wedi cael e golli i bobl De Orllewin Cymru, a nhw yn fy marn i yw'r gwir dioddefwyr. Mae anghyfiawnder enfawr wedi bod ", meddai'r Athro Clement.
Dadleuodd fod y prosiect wedi denu rhai o gwmnïau mwyaf y byd gan gynnwys Pfizer a Siemens.
"Yng ngwanwyn 2021, a dyna lle rydyn ni nawr, byddai 1000 o swyddi o safon uchel wedi bod yn Llanelli, ardal o amddifadedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2019